Ymgyrch Ail-Ddefnyddio Diwedd Tymor
Mae Prifysgol Bangor yn ymdrechu i fod y Brifysgol fwyaf effeithlon o ran adnoddau; yn wir roeddem yn 7fed yn y byd yng nghyngrair THE impact 2020 am ein hymrwymiad i nôd 12 ‘sicrhau cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy.
Er ein bod ar hyn o bryd yn wynebu heriau hollol anghyfarwydd yn sgîl Covid-19, rydym yn parhau i weithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau ein bod yn casglu eitemau a deunyddiau i'w hailddefnyddio a'u hailgylchu. Gyda gwyliau'r haf yn agosáu, mae llawer o fyfyrwyr yn symud allan o'u neuaddau preswyl dros yr wythnosau nesaf. Wrth i iddynt bacio fe fyddant mwy na thebyg yn sylweddoli bod ganddynt lawer o eitemau dros ben. Rydym ni yn cynnig y cyfle iddynt osgoi eu taflu, ond yn hytrach eu rhoi i elusen yn lle hynny.
Rhoi nid taflu ffwrdd
Mae Ymgyrch Ailddefnyddio Diwedd Tymor sydd wedi ei threfnu ar y cyd rhwng Neuaddau, PaCS a’r Lab Cynaliadwyedd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr roi yr eitemau y gellir eu hailddefnyddio i elusen leol, Antur Waunfawr. Mae modd cyfranu eitemau fel llestri, potiau a sosbenni, dillad, esgidiau, ac offer cegin. Y cyfan sy'n rhaid i’r myfyrwyr ei wneud yw rhoi’r eitemau mewn bag plastig coch sydd wedi ei ddarparu, yna gadael y bag y tu allan i ddrws eu hystafell wely. Nid yw gwastraff cyffredinol, gwastraff i’w ailgylchu na gwastraff bwyd i gael ei roi yn y bag coch. Mae modd i’r myfyrwyr gyfranu bwyd oes silff hir (heb eu hagor) megis grawnfwyd, tuniau a jariau drwy ei gadael ar ffwrdd eu cegin.
Oherwydd y pandemig sy’n ein heffeithio ar hyn o bryd, mae iechyd a diogelwch ein myfyrwyr, staff a gwirfoddolwyr yn flaenoriaeth. Cytunwyd felly y bydd yr holl eitemau sy’n cael eu cyfrannu er mwyn eu hailddefnyddio yn ystod ymgyrch 2020 yn cael eu casglu, eu storio a'u symud mewn bagiau untro coch. Bydd hyn yn sicrhau nad yw’r rhoddion yn cael eu trin gan nifer fawr o bobl mewn byr amser, ac unwaith y bydd y rhoddion wedi cyrraedd pen eu taith, cânt eu didoli a'u prosesu cyn gynted â phosibl.