Y Gynhadledd Aspiring Researchers (ARC) 2020 (Online) - Call for Submissions Open Now!
Mae Pwyllgor Trefnu ARC, mewn cydweithrediad 芒'r Ysgol Ddoethurol a'r Undeb, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yr ARC yn cael ei gynnal fel cynhadledd ar-lein ar 04/08/2020!
Gohirio Dyddiad Cau
Ar ran Pwyllgor Trefnu ARC, rydym ni yn falch o allu eich gwneud yn ymwybodol bod dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer ymuno a鈥檙 gynhadledd wedi cael ei ohirio tan yr聽20/7/2020 (17:00). Rydym yn ymwybodol o鈥檙 trafferthion mae pobl yn delio efo yn ystod yr amgylchiadau presennol ac eisio rhoi cyfle i'r rhai sydd wedi dangos diddordeb i allu cwblhau ei cheisiadau.
Croeso i chi cysylltu 芒 ni ar聽postgrads@undebbangor.com聽i anfon eich cyflwyniadau neu unrhyw ymholiadau.
Mae croeso i'r rhai ohonoch sydd eisoes wedi anfon ceisiadau i mewn roi gwybod i ni os yw鈥檙 ceisiad dal yn sefyll, neu os oes fersiwn wedi'i diweddaru yr hoffech i ni ei hadolygu. Gwahoddir y rhai ohonoch nad ydynt wedi gwneud cais eto i wneud hynny.
Mae bod yn rhan o gymuned fwy, rhannu eich gwaith 芒'ch cyfoedion, a dysgu oddi wrth ein gilydd, yn rhan ysbrydoledig o鈥檙 proses academaidd. Ein nod yw harneisio a meithrin yr ysbryd hwn hyd eithaf ein gallu trwy'r gynhadledd hon. P'un ai i ymarfer eich sgiliau cyflwyno, ehangu eich gorwelion, cydweithredu ag eraill ar draws disgyblaethau, neu yn syml er mwyn dysgu am amrywiaeth o feysydd, rydym yn awgrymu eich bod yn mynychu'r digwyddiad hwn.
Wedi'r cyfan, ni all gymuned ymchwil bodoli heb i ymchwilwyr fod yn bresennol.
Isod mae'r alwad ac, ynghlwm, y Ffurflen Cais ar gyfer y manylion cyflwyno.