Meistr mewn Addysg yn Singapor
Rhannwch y dudalen hon
Mewn cydweithrediad newydd, mae Sefydliad Datblygu Rheolaeth yn Singapor (MDIS) ac Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor wedi creu rhaglen newydd, Meistr mewn Addysg.
Mae'r rhaglen ar gyfer darlithwyr ac arweinwyr a bydd yn cael ei chyflwyno trwy ddysgu o bell ac addysgu wyneb yn wyneb. Mae ugain myfyriwr wedi cofrestru ac fe fyddant yn graddio ym mis Rhagfyr 2021. Mae holl staff y tim MA yn edrych ymlaen at gydweithio gyda MDIS ar y prosiect newydd a chyffrous hwn. Yn y llun, gwelir Dr Kuan o MDIS a'r Dirprwy is-Ganghellor, yr Athro Oliver Turnbull (Bangor).