Ail-ddarllediad America Gaeth a'r Cymry
Nos yfory ( 22.00 Iau 18 Mehefin) mae S4C yn ail-ddangos i gyd-fynd â digwyddiadau cyfredol symudiad Black Lives Matter.
Yr Athro Jerry Hunter o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd sy'n ymchwilio hanes Cymry â chaethwasiaeth yn UDA yn y gyfres tair rhan.
Mae'r gyfres yn adrodd hanes ymwneud Cymry America (Americanwyr Cymraeg eu hiaith, a bod yn fanwl gywir) â chaethwasiaeth, o'r cychwyn cyntaf i ddiwedd caethwasiaeth yn yr UDA yn 1865.
Mae'r bennod gyntaf a ddarlledir nos Iau yn dechrau gyda'r cyfnod cynnar, cyfnod pan oedd rhai ymfudwyr Cymraeg yn America, fel y bardd Goronwy Owen o Ynys Môn, yn berchen ar gaethweision.
Roedd lleisiau rhai Cymry yn y 18fed wedi'u codi'n erbyn y drefn anfoesol hefyd - fel y bardd Iolo Morganwg a'r meddyliwr radicalaidd Morgan John Rhys. Ond erbyn y 1830au/1840au, mae tystiolaeth Gymraeg o America yn dangos bod Americanwyr a siaradai Gymraeg a leisiai farn ynghylch y cwestiwn yn erbyn Caethwasiaeth.
Ceir cyfle yn y ddwy bennod nesaf felly i ddysgu mwy am hanes pobl fel Robert Everett, y gweinidog Cymraeg o sir y Fflint a oedd yn weinidog ar gwpl o gapeli Cymraeg yn 'upstate New York' ac a aeth ati yn egniol i ddefnyddio'r pulpud, y wasg argraffu, y gymdeithas wrth-gaethiwol, a phleidiau gwleidyddol i radicaleiddio Cymry America a'u byddino'n erbyn caethwasiaeth.
Mae'r bennod olaf yn cynnwys llawer am Americanwyr Cymraeg eu hiaith yn ystod y Rhyfel Cartref (1861-65), gan gynnwys tystiolaeth Gymraeg hynod ddiddorol am filwyr Cymraeg o Wisconsin a aeth ati i helpu caethweision ffoedig i ddianc o'u meistri yn Kentucky yn ystod y rhyfel.
Mae’r Athro Jerry Hunter erbyn hyn wedi datblygu'r ymchwil hyn ac yn gweithio ar lyfr cyfan am y milwyr Cymraeg hyn o Wisconsin a'u hagweddau ynghylch caethwasiaeth.
Mae'r gyfres yn cynnwys 'reenactors' sy'n darlunio rhai o'r digwyddiadau hanesyddol dan sylw mewn modd byw iawn, y cyfan wedi'i ffilmio'n gelfydd gan Gareth Owen.
Yn ôl yr Athro Jerry Hunter:
“O ran ymdrechion llwyddiannus Ifor ap Glyn, cynhyrchydd a chyfarwyddwr y rhaglen, i wireddu'r potenstial yn yr ymchwil; mae'r gyfres yn defnyddio tystiolaeth caethweision a chyn-gaethweision er mwyn darlunio natur eu bywydau nhw, a sicrhaodd Ifor fod yna rychwant o leisiau Affrican-Americanaidd yn rhan o'r gyfres.
Gan fod naratif bersonol un cyn-gaethwas yr oeddwn i am ei ddefnydido wedi'i sgwennu yn Arabeg, aeth Ifor i drafferth i gael hyd i ddyn a allai ddarllen y dyfyniadau yn Arabeg ond gydag acaen o orllewin Affrica - yn union fel y dyn a'i sgwennodd, Omar ibn Said, gydag isdeitlau Cymraeg, wrth gwrs.”