Prifysgol Bangor yn hyfforddi 170 o staff gofal dwys ychwanegol i ymladd y pandemig
Mae tîm o 170 o staff nyrsio wedi cael eu hyfforddi i weithio mewn unedau gofal dwys ledled Gogledd Cymru i achub cymaint o fywydau â phosib yn ystod pandemig Covid-19.
Mae'r staff ychwanegol hyn wedi cwblhau cwrs llwybr cyflym a gefnogir gan Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, a byddant yn fwy na dyblu'r niferoedd sydd ar gael i weithio yn Unedau Gofal Dwys y rhanbarth.
O ganlyniad, mae'r staff sydd wedi uwchraddio eu sgiliau yn barod i ddechrau gweithio ar y rheng flaen yn erbyn y coronafirws yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam.
Roedd Naomi Jenkins, sy'n Ddarlithydd Gwyddorau Iechyd ac yn nyrs gofal critigol brofiadol, yn arwain tîm a chwaraeodd ran allweddol yn y cwrs tridiau sydd wedi cynyddu nifer y staff nyrsio sydd ar gael i weithio ym maes gofal dwys yng Ngogledd Cymru i oddeutu 380.
Sefydlwyd y cwrs mewn ymateb i apêl gan Brif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, yn gofyn i bersonél ychwanegol gael eu hyfforddi i gefnogi Unedau Gofal Dwys ledled Cymru.
Mae'r timau newydd o nyrsys bellach yn barod i ymuno â'r tri ysbyty cyffredinol sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wynebu'r argyfwng iechyd sy'n gwaethygu.
Bu Naomi, o Northop Hall, yn Sir y Fflint, yn gweithio am ddeng mlynedd fel nyrs Uned Gofal Dwys cyn dechrau ar ei swydd ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n dal i wneud sifftiau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Meddai: “Roedd yn gwrs llawn iawn ond llwyddwyd i drefnu diwrnod cyntaf y cwrs mewn dim ond 80 awr gyda'n cydweithwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, a threfnwyd yr ail a'r trydydd diwrnod gan ein cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd.
“Mae cleifion mewn Uned Gofal Dwys yn ddifrifol wael a gall pethau newid yn gyflym iawn felly os nad ydych wedi arfer â hynny, gall fod yn frawychus iawn. Eich cyfrifoldeb chi ydyw, mae bywyd rhywun yn eich dwylo chi ac mae hynny'n gyfrifoldeb enfawr.
“Mae'n rhaid cyfarwyddo gyda llawer o offer a llawer o gyffuriau ac mae'n rhaid i chi allu ymateb yn gyflym iawn pan rydych yno felly mae gen i barch enfawr at y staff sydd wedi dod ymlaen.
“Roedd rhai ohonyn nhw'n teimlo y dylen nhw ddod yn ôl oherwydd eu bod wedi gweithio mewn Uned Gofal Dwys o'r blaen ac roedd rhai yn teimlo eu bod nhw eisiau ei wneud. Roeddwn bob amser wrth fy modd gyda'r gwaith ac ni fyddwn eisiau gweithio mewn unrhyw gangen arall o nyrsio.”
Daw'r gwirfoddolwyr o blith staff sydd â sgiliau ac arbenigedd tebyg i'r rhai a ddefnyddir mewn Uned Gofal Dwys yn cynnwys ymdrin â chleifion dan anesthetig ac mae'r tri phrif ysbyty ledled Gogledd Cymru wedi defnyddio'r adnodd hyfforddi.
Roedd cyfnod o dair wythnos ar gael i gyflwyno'r cwrs a hyd yma mae 170 aelod staff wedi uwchraddio eu sgiliau - tra bod 20 arall wedi gwirfoddoli ers hynny - gan ychwanegu at dros 200 o nyrsys Uned Gofal Dwys sydd wedi eu rhannu ar draws y tri ysbyty ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Naomi, sydd hefyd wedi gwirfoddoli i ymuno â'r timau Uned Gofal Dwys: “Pan fyddwch yn gofalu am rywun sy'n ddifrifol wael yn yr uned gofal dwys mae'n sefyllfa lle mae un nyrs yn gofalu am un claf ac mae'n golygu cael hyfforddiant mewn defnyddio peiriant anadlu a'r holl bethau eraill sy'n gysylltiedig.
“Nid yw dysgu rhywun i ddefnyddio peiriant anadlu yn syml, mae'n ymwneud â gofalu am y person cyfan tra eu bod ynghlwm wrth y peiriant anadlu.
“Mae'n rhaid monitro'r claf yn gyson, rhoi triniaethau therapiwtig, cadw dogfennau, rhoi gofal personol, a symud y claf yn rheolaidd, sy'n gofyn am ymdrech enfawr gan y tîm.
“Mae'n siŵr bod y recriwtiaid newydd yn bryderus iawn am yr holl beth, ond mae'r staff y byddan nhw'n eu cefnogi yn ddiolchgar iawn iddynt oherwydd maent yn gwybod sut beth yw bod yn newydd.
“Nid yw'n rhywbeth y mae pawb eisiau ei wneud. Mae'r bobl hyn yn arbenigwyr yn eu meysydd eu hunain felly pob clod iddynt am gefnogi eu cydweithwyr yn yr unedau gofal dwys. "
Dywedodd Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor: “Dyma enghraifft wych o waith gan staff yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd sy'n cyfrannu at gefnogi'r GIG mewn gwahanol ffyrdd wrth ymateb i'r pandemig.
“Mae'r cwrs y bu Naomi ac eraill yn rhan o'i ddatblygu yn helpu i wella sgiliau a rhoi'r wybodaeth a'r hyder angenrheidiol i staff sydd ddim fel rheol yn gweithio mewn meysydd gofal dwys.”
Cafwyd canmoliaeth hefyd gan Martin Riley, Pennaeth Addysg, Comisiynu ac Ansawdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a ddywedodd: “Nid yw tynnu staff allan o’r ysbytai yn ystod y cyfnod hwn yn ddelfrydol ond mae'n hanfodol er mwyn adeiladu gwytnwch yn y system pan fydd y pandemig yn gwaethygu.
“Dyma enghraifft wych o bartner addysg uwch yn ymateb ar frys ac yn broffesiynol i’r hyn sy’n sefyllfa ddifrifol. Diolch yn arbennig i Naomi Jenkins a'i thîm ym Mhrifysgol Bangor a wnaeth hyn yn bosibl.
“Roedd gennym gyfnod o dair wythnos i gael cymaint o staff ag y bo modd i gynorthwyo’r Gwasanaeth ar adeg pan oedd fwyaf eu hangen ac yn ystod y cyfnod hwn maent wedi darparu hyfforddiant i 170 aelod staff - dros 500 diwrnod o hyfforddiant mewn dim ond tair wythnos.
“Roedd yn ymdrech anhygoel ac fel comisiynwyr addysg Gweithwyr Iechyd Proffesiynol rydym yn wirioneddol falch o'r cydweithio a pha mor barod oedd ein cydweithwyr yn y brifysgol i ymateb yn ystod yr argyfwng hwn.”
Am ragor o wybodaeth am Brifysgol Bangor ewch i /