Fideo am Tswnami'n ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr gan y Gymdeithas Ddaearyddol
Mae fideo addysgol am tswnamis, a wnaed gan Time for Geography ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Dundee, wedi ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr 2020 gan y Gymdeithas Ddaearyddol.
Y Wobr Arian yw'r clod uchaf sydd yn flynyddol am ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth mewn ysgolion a cholegau sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at addysg ddaearyddol a datblygiad proffesiynol.
Mae'r fideo'n archwilio sut mae tswnamis yn cael eu ffurfio ar y môr a sut y gallwn adnabod eu heffaith yn nhirwedd yr arfordir trwy gyfuniad o animeiddiadau, gwaith maes yn yr Alban, ac arddangosiadau yn Labordy Hydrodynameg Prifysgol Bangor. Y bwriad yw hybu gwybodaeth myfyrwyr TGAU, lefel-A a'u tebyg, ac mae'r Athro Sue Dawson (Dundee) a Dr Jaco H. Baas (Ysgol Gwyddorau Eigion, Bangor) yn helpu myfyrwyr ddeall tswnamis trwy ddefnyddio daearyddiaeth ffisegol ac eigioneg, ac i asesu peryglon tswnamis yn y Deyrnas Unedig.
Yn y seremoni wobrwyo amlygodd y Gymdeithas Ddaearyddol ffocws y fideo ar destun na welwch chi'n aml yn y gwerslyfrau. Dywedasant hefyd, yn ogystal â lleisiau daearyddwyr academaidd, fod yma ddisgrifiad clir i'r myfyrwyr o sut mae gwybodaeth am y maes yn cael ei datblygu trwy ymchwilio i beryglon tectonig.
Eglura Dr Baas: “Mae'n bwysig a hefyd yn braf iawn estyn allan i'r ysgolion a'r colegau a rhannu gwybodaeth a dangos sut mae gwneud ymchwil. Mae fideo'r tsunami'n darparu gwybodaeth ffisegol yn ogystal â daearegol. Mae hyn yn tanlinellu gwerth defnyddio dull amlddisgyblaethol ar bob lefel o addysg.”
Mae dwy ran i fideo'r tswnami ac mae ar gael ar wefan Time for Geography:
https://timeforgeography.co.uk/videos_list/plate-tectonics/tsunamis-causes/