Fideo am Tswnami'n ennill Gwobr Arian y Cyhoeddwyr gan y Gymdeithas Ddaearyddol
Mae fideo addysgol am tswnamis, a wnaed gan Time for Geography ar y cyd 芒 Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Dundee, wedi ennill Gwobr听 Arian y Cyhoeddwyr 2020 gan y Gymdeithas Ddaearyddol. Y Wobr Arian yw'r clod uchaf sydd yn flynyddol am ddeunyddiau sy'n gysylltiedig 芒 daearyddiaeth mewn ysgolion a cholegau sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at addysg ddaearyddol a datblygiad proffesiynol.
听Mae'r fideo'n archwilio sut mae tswnamis yn cael eu ffurfio ar y m么r a sut y gallwn adnabod eu heffaith yn nhirwedd yr arfordir trwy gyfuniad o animeiddiadau, gwaith maes yn yr Alban, ac arddangosiadau yn Labordy Hydrodynameg Prifysgol Bangor. Y bwriad yw hybu gwybodaeth myfyrwyr TGAU, lefel-A a'u tebyg, ac mae Dr Jaco H. Baas (Ysgol Gwyddorau Eigion, Bangor) a'r Athro Sue Dawson (Dundee) yn helpu myfyrwyr ddeall tswnamis trwy ddefnyddio daearyddiaeth ffisegol ac eigioneg, ac i asesu peryglon tswnamis yn y Deyrnas Unedig.
Yn y seremoni wobrwyo amlygodd y Gymdeithas Ddaearyddol ffocws y fideo ar destun na welwch chi'n aml yn y gwerslyfrau. Dywedasant hefyd, yn ogystal 芒 lleisiau daearyddwyr academaidd, fod yma ddisgrifiad听 clir i'r myfyrwyr o sut mae gwybodaeth am y maes yn cael ei datblygu trwy ymchwilio i beryglon tectonig.
Eglura Dr Baas: 鈥淢ae'n bwysig a hefyd yn braf iawn estyn allan i'r ysgolion a'r colegau a rhannu gwybodaeth a dangos sut mae gwneud ymchwil. Mae fideo'r tsunami'n darparu gwybodaeth ffisegol yn ogystal 芒 daearegol. Mae hyn yn tanlinellu gwerth defnyddio dull amlddisgyblaethol ar bob lefel o addysg.鈥
Mae dwy ran i fideo'r tswnami ac mae ar gael ar wefan Time for Geography: