Syr John Houghton
Rydym ni ym Mhrifysgol Bangor wedi ein tristau o glywed am farwolaeth y gwyddonydd hinsawdd byd-enwog Syr John Houghton.
Chwaraeodd Syr John ran allweddol yn sefydlu Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (IPCC) a bu鈥檔 gyd-gadeirydd gweithgor asesu gwyddonol y sefydliad rhwng 1988-2002.
Cydnabuwyd ei gyfraniad yn 2007 pan rannodd yr IPCC y Wobr Heddwch Nobel fel ei fod yn gyd-enillydd 芒 chyn Is-lywydd yr Unol Daleithiau Al Gore am eu hymdrechion i adeiladu a lledaenu mwy o wybodaeth am newid hinsawdd o achos dyn, ac i osod y seiliau ar gyfer y mesurau sydd eu hangen i wrthweithio newid o'r fath. Fel cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol y Swyddfa Dywydd, roedd gan Syr John y weledigaeth i sefydlu Canolfan Hadley ym 1990, gan berswadio'r Prif Weinidog ar y pryd o angen a phwysigrwydd y Ganolfan. Mae'r Ganolfan bellach yn bartner byd-eang ar gyfer gwyddoniaeth a gwasanaethau hinsawdd ac yn darparu sesiynau briffio yn aml i'r llywodraeth i grynhoi meysydd pwysig gwyddoniaeth hinsawdd. Roedd Syr John, brodor o ogledd Cymru, yn gefnogol iawn i'r brifysgol, gan ymweld ar sawl achlysur a chymryd rhan mewn dadl newid hinsawdd yn y brifysgol. Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan y brifysgol yn 2003.
Talwyd nifer o deyrngedau iddo ers ei farwolaeth, gan gynnwys hwn, o'r New York Times: