Gwahoddwyd Yr Athro Raluca Radulescu i roi cyflwyniad yn symposiwm undydd AMARC (Association for Archives and Manuscripts in Research Collections)
Rhannwch y dudalen hon
Gwahoddwyd Yr Athro Raluca Radulescu i roi cyflwyniad yn symposiwm undydd AMARC (Association for Archives and Manuscripts in Research Collections) yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen, ar bwnc effaith ymchwil a gweithgareddau ennyn diddordeb yn ymwneud â'r casgliadau Arthuraidd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig a'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor. Daeth 40 o bobl i'r achlysur, yn archifyddion, curaduron a llyfrgellwyr, yn ogystal ag academyddion, o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig.Â