'Earth Day' 2020
Mae ‘Earth Day’ yn dathlu ei phen blwydd yn 50 heddiw.
Bydd unigolion a sefydliadau o bob rhan o'r byd yn dathlu ‘Earth Day’ yn flynyddol ar 22 Ebrill, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau i greu amgylchedd iachach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Thema eleni yw gweithredu ar yr hinsawdd, ac mae academyddion Prifysgol Bangor yn gwneud gwaith ymchwil rhagorol yn y maes hwn, sy’n cael effaith economaidd sylweddol ar fywydau pobl ledled y byd.
Dyma enghreifftiau:
Dan arweinyddiaeth Yr Athro Davey Jones o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol, bydd grŵp o academyddion blaenllaw yn rhannu eu harbenigedd i ddatblygu ffyrdd newydd o fonitro'n dorfol lefelau SARS-Cov-2, y firws sy'n achosi'r afiechyd a elwir yn COVID-19. Mwy o wybodaeth yma.
Bydd ecosystemau mawr, fel coedwig law'r Amazon, yn chwalu ac yn diflannu’n ddychrynllyd o gyflym, unwaith y cyrhaeddir trobwynt hollbwysig, yn ôl cyfrifiadau yn seiliedig ar ddata’r byd go iawn. Mae ymchwilwyr gan gynnwys Dr Simon Willcock o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol, yn datgelu pa mor gyflym y bydd ecosystemau o wahanol feintiau yn diflannu, unwaith y byddant wedi cyrraedd pwynt y maent yn chwalu y tu hwnt iddo, gan drawsnewid yn ecosystem amgen. Mwy o wybodaeth yma.Ìý
Mae Canolfan Blastig Cymru wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n dwyn ynghyd academyddion, ymchwilwyr, myfyrwyr a phartneriaid i ymchwilio i bob agwedd ar ddefnydd plastig, llygredd plastig a dewisiadau plastig amgen. Mae'r Ganolfan ar flaen y gad o ran mynd i'r afael ag un o faterion amgylcheddol mwyaf y Blaned: gwastraff plastig a gorddefnyddio plastig untro. Mwy o wybodaeth am eu projectau .
Cyfrannodd yr Athro Jan Hiddink o'r Ysgol Gwyddorau Eigion, ynghyd â gwyddonwyr o bob cwr o'r byd, at yr asesiad mwyaf cynhwysfawr o sut mae’r cefnforoedd yn cynhesu yn effeithio ar y cymysgedd o rywogaethau sydd yn ein cefnforoedd. Mwy o wybodaeth yma.
Mwy o wybodaeth am ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yma.Ìý