Papur ar wella ansawdd yn rhestr papurau gorau 2019
Mae ymchwil gan Dr Lorelei Jones, Darlithydd Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor, a chydweithwyr yn UCL, Kings ac Imperial, wedi ei gynnwys yn y rhestr BMJ Quality and Safety o bapurau gorau 2019.Â
Mae'r papur yn trafod sut mae sefydliadau gofal iechyd yn ymateb i wella ansawdd.Â
Mae gwella ansawdd y gofal a ddarperir gan ysbytai yn flaenoriaeth i systemau gofal iechyd ledled y byd. Roedd yr astudiaeth hon yn rhan o werthusiad o fenter mewn 6 ysbyty yn Lloegr i gynorthwyo'r uwch dimau rheoli i wella ansawdd y gofal a ddarperir gan y sefydliad. Nod yr astudiaeth oedd egluro effeithiau'r fenter, a nodi gwersi ar gyfer cynllunio mentrau yn y dyfodol. Â
Er mwyn i sefydliadau elwa o fentrau gwella ansawdd, canfu fod rhaid iddynt gael rhywfaint o ryddid - a ddisgrifiwyd gan y cyfranogwyr fel 'amser i feddwl' a 'rhywun i wneud y gwaith'.  Roedd gan y sefydliadau a elwodd o'r ymyriad hefyd dimau rheoli sefydlog a gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwella ansawdd. Goblygiadau ein hymchwil i reoleiddwyr sy'n ymwneud â chryfhau gallu ysbytai i wella yw bod rhaid iddynt gymryd rhyddid o ddifrif, a lleihau nifer y galwadau ar sefydliadau yn unol â hynny. Efallai y bydd sefydliadau sy'n ystyried cymryd rhan yn y math hwn o fenter yn ystyried yn gyntaf yr hyn y gallent roi'r gorau i'w wneud er mwyn caniatáu digon o ryddid.
 Mae ein hastudiaeth yn awgrymu na fydd ychwanegu un fenter arall at sefydliad sydd eisoes wedi ei orlwytho yn arwain at y canlyniadau a ddymunir. Dylid addasu cynllun ymyriadau ar lefel y bwrdd i'r cyd-destun, er enghraifft, trwy ganolbwyntio ar gryfhau blociau adeiladu gweithrediad bwrdd iach mewn sefydliadau lle mae hyn yn wan.Â
Cyllidwr:Â National Institute for Health Research Collaboration for Leadership in Applied Health Research a Care North ThamesÂ
Tîm ymchwil: Dr Lorelei Jones, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol BangorÂ
Linda Pomeroy, Department of Applied Health Research, UCLÂ
Glenn Robert, Florence Nightingale Faculty of Nursing, Midwifery & Palliative Care, Â
King's College, LlundainÂ
Susan Burnett, Department of Surgery and Cancer, Imperial College LondonÂ
Janet Anderson, Florence Nightingale Faculty of Nursing, Midwifery & Palliative Care, Â
King's College, LlundainÂ
Steve Morris, Department of Applied Health Research, UCLÂ
Estela Capelas Barbosa, Department of Applied Health Research, UCLÂ
Naomi Fulop, Department of Applied Health Research, UCL (Principal Investigator)Â
Llongyfarchiadau i bawb a gyfranodd!Â