Myfyrwyr entrepreneuraidd yn gosod Bangor tua鈥檙 brig
Mae mwy o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi creu busnesau eu hunain nag mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru yn 么l .听听
Roedd yr arolwg o 404,182 o fyfyrwyr o鈥檙 wyth sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn dadansoddi鈥檙 nifer oedd wedi cychwyn eu busnesau eu hunain, symud i swydd uwch mewn busnes oedd wedi ei sefydlu eisoes, neu a oedd yn gweithio ar eu liwt eu hunain fel gweithwyr llawrydd.聽
Gosodwyd y Brifysgol yn yr ail le yng Nghymru o ran y categor茂au i gyd, gyda bron i 10% (9.13%) o fyfyrwyr wedi graddio yn dewis profi eu sgiliau mentergarwch.聽 聽聽 聽
Mae鈥檙 sefydliad yn ymfalch茂o yn ansawdd y dysgu a鈥檙 profiadau prifysgol sy鈥檔 cael ei gynnig, a鈥檙 adroddiad diweddaraf yn agwedd arall ar y profiad rhagorol i fyfyrwyr, ynghyd 芒 datblygiad sgiliau a gwybodaeth sydd ar gael yn y Brifysgol.聽
Meddai鈥檙 Athro Iwan Davies, Is-ganghellor y Brifysgol:聽
鈥淢ae entrepreneuriaeth yn elfen hanfodol o economi Cymru, gyda 95% o economi Cymru yn fusnesau bychain iawn yn cyflogi naw neu lai o bobl.聽Mae datblygu ffrwd o entrepreneuriaid y dyfodol a all ddod 芒 sgiliau a gwasanaethau newydd felly鈥檔 hanfodol ar gyfer ein heconomi.聽Dyma pam ein bod yn rhoi cymaint o bwyslais ar annog ysbryd o fentergarwch ymysg ein myfyrwyr.聽 聽聽 聽
Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor ynghyd 芒 chyfleoedd i brofi鈥檙 farchnad drwy gystadlaethau a marchnadoedd a modiwlau yn ein dysgu, fel bod ein myfyrwyr efo鈥檙 sgiliau i adnabod a datblygu eu mentergarwch a chymryd y camau cyntaf i fyd busnes.鈥澛犅
Mae鈥檙 newyddion mai Prifysgol Bangor oedd y cyntaf yng Nghymru i fynd i bartneriaeth efo IPSE (yr 鈥楢ssociation of Independent Professionals and the Self Employed鈥) i gefnogi myfyrwyr sydd am, neu鈥檔 ystyried, gweithio鈥檔 llawrydd hefyd yn newyddion da i鈥檙 rhai hynny a adnabuwyd yn yr arolwg fel egin-weithwyr llawrydd.聽
Meddai Lowri Owen, Rheolwr Projectau Mentergarwch Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol:聽 聽聽
聽鈥淢ae cefnogi cyflogadwyedd ein myfyrwyr yn strategaeth allweddol ym Mhrifysgol Bangor ac mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth i鈥檙 rhai hynny sydd eisiau cychwyn eu busnesau eu hunain neu fod yn hunangyflogedig.鈥澛