Taith Rhithiol
Teithiau Llyfrgell
Yma ym Mangor, rydym wedi ymrwymo i hygyrchedd ac yn ymdrechu i gyrraedd y safon AA ar ein gwefan. Isod fe welwch drawsgrifiadau ar gyfer pob un o'r ystafelloedd sy'n ymddangos yn ein teithiau rhithwir Panoee 360. Cliciwch ar yr ystafelloedd unigol isod i ddarllen y trawsgrifiad.
Trawsgrifiad Taith Llyfrgell
Croeso i Brif Adeilad y Celfyddydau; o fewn yr adeilad hwn mae ystafelloedd darlithio amrywiol a ddefnyddir ar gyfer gwahanol bynciau. Mae'r adeilad hefyd wedi'i gysylltu â Llyfrgell Prifysgol Bangor. Yn y Llyfrgell hon, mae gennym ystafelloedd gwahanol sy'n dal llyfrau ar gyfer pynciau amrywiol ac yn cynnig lle i ddarllen ac astudio. Yr ystafelloedd hynny yw:
- Ystafell ddarllen Shankland
- Ystafell ddarllen Lloyd
- Ystafell ddarllen Richards
- Y Stac - archifau a chasgliadau arbennig
Mae’r Llyfrgell yn gartref i wasanaethau digidol, a all helpu gyda gwahanol ymholiadau, er enghraifft, sut mae Blackboard a Panopto yn gweithio.
Mae desg gymorth TG bellach wedi'i leoli yn y Llyfrgell. Cefnogaeth TG yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer staff a myfyrwyr, gan ganiatáu i bobl gysylltu â Gwasanaethau TG naill ai dros y ffôn, e-bost neu wyneb yn wyneb. Mae Cymorth TG yn darparu cyngor a hyfforddiant, yn ogystal â datrys problemau gyda systemau a meddalwedd y Brifysgol, gan gynnwys Rhwydwaith Preswyl y neuaddau. Mae amrywiaeth y tîm hwn yn caniatáu i dros 50% o alwadau gael eu datrys yn y cyswllt cyntaf.
Mae'r tîm hwn yn ymwneud â'r holl brosiectau sy'n rhedeg ar draws y Gwasanaethau TG i sicrhau bod safbwynt y defnyddiwr bob amser yn cael ei ystyried. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am gynnal a diweddaru'r holl ofodau cyfrifiadurol sy'n wynebu myfyrwyr er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gyfrifiadur a rennir yn hŷn na phum mlwydd oed. Mae Prif Adeilad y Celfyddydau hefyd yn cynnig dwy ystafell gyfrifiaduron, sef CR1 a CR2. Yn olaf, Neuadd Pritchard Jones, lle cynhelir y mwyafrif o seremonïau graddio.
Mae bwyty Lolfa’r Teras a Chaffi’r Teras wedi ei lleoli ar dir isaf Prif Adeilad y Celfyddydau.
O fewn Prif Adeilad y Celfyddydau, mae gennym fynedfa dros dro i'r Llyfrgell. Mae'r fynedfa yn mynd â chi i ystafell ddarllen Lloyd. Adeiladwyd yr adeilad rhwng 1907 a 1911 a gellir disgrifio arddull pensaer Prif Adeilad y Celfyddydau fel Collegiate Tudor. Mae'r ddelwedd hon yn dangos ffenestri lliw, lloriau teils addurniadol, a waliau cerrig noeth, sy'n rhoi adeilad glân ac hanesyddol iawn i ni.
ÌýYn Ystafell Ddarllen Lloyd mae gan yr ystafell hon goridor hir. Cawn ein taro ar unwaith gyda charpedÌý coch a dotiog melynÌý bywiog ar yr ochrau. Mae gennym hefyd garped llwyd hir ar hyd canol yr ystafell. Ynghyd â'r carped mawreddog hwn, mae gennym bentyrrau o silffoedd llyfrau pren. Yn Ystafell Ddarllen Lloyd, mae gennym hefyd hen fyrddau a chadeiriau pren. Gall hwn fod yn lle gall myfyrwyr ddod i ddarllen mewn heddwch a thawelwch. Yn olaf, yn yr ystafell hon, gallwn weld ffenestri mawr traddodiadol siâp llinell y gwanwyn sy’n caniatáu digon o olau i mewn i’r ystafell, ac eto mae gennym y waliau cerrig moel hyn sy’n rhedeg ar draws Prif Adeilad y Celfyddydau/Llyfrgell.
Ystafell fychan ydi hon, gyda waliau wedi'u paentio'n wyn a lloriau teils du. Mae'r ardal hon yn cynnig lle i fyfyrwyr argraffu unrhyw beth sydd ei angen arnynt, ac mae hefyd yn lle i chi ddychwelyd eich llyfrau. Mae'r ystafell hon hefyd yn eich cysylltu â phrif ardal y llyfrgell, lle gallwch siarad â staff a mynd i'r Gwasanaethau TG .
Mae prif fynedfa'r Brif Lyfrgell wedi'i lleoli oddi ar gwad allanol Prif Adeilad y Celfyddydau. Yn ystod yr wythnos, pwyswch y botwm wrth y drws mewnol a bydd y drws yn agor. Ar gyfer mynediad gyda'r nos ac ar y penwythnos, daliwch eich cerdyn Staff neu Fyfyriwr Bangor yn erbyn darllenydd y cerdyn i agor y drws. Mae hyn yn mynd â chi drwodd i'r dderbynfa.
Yn y dderbynfa mae desg gymorth y Llyfrgell - cartref tîm cymorth y Llyfrgell. Bydd y tîm hwn yn eich helpu i ddefnyddio catalog y llyfrgell, yn dangos i chi sut i ddod o hyd i lyfrau ar y silffoedd, yn cynorthwyo i gael mynediad at adnoddau electronig a chronfeydd data ac yn dangos sut i ddefnyddio offer (h.y. peiriannau hunanwasanaeth ac argraffwyr). Dyma'r lle i fynd hefyd os oes gennych broblem gyda'ch cerdyn adnabod a gall y tîm hefyd helpu gyda rhai ymholiadau TG sylfaenol fel mynd ar rwydweithiau diwifr neu eich helpu i newid eich cyfrinair hefyd….ac os na all y tîm hwn helpu gyda cwestiwn y byddant yn eich pwyntio at bwy all! Desg gymorth y llyfrgell hefyd yw'r lle i ddod i gasglu llyfrau yr ydych wedi'u cadw i'w casglu.
Hefyd yn y dderbynfa, fe welwch:
- Y tîm cymorth TG – sydd wedi'i leoli mewn ystafell ychydig oddi ar y dderbynfa, gallant helpu gydag ymholiadau TG manwl a hefyd ymdrin â chasgliadau offer TG.
- Ystafell technoleg gynorthwyol (ATR) – man mynediad cyfyngedig yw hwn, gyda chaledwedd a meddalwedd arbenigol i’w defnyddio gan fyfyrwyr ag anableddau.
- Peiriannau hunanwasanaeth - dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i fenthyg a dychwelyd llyfrau llyfrgell.
- System Ddiogelwch y Llyfrgell - Bydd cerdded drwy’r gatiau gyda llyfr nad ydych wedi’i fenthyg (neu heb ei fenthyca’n iawn) yn peri braw i’r gatiau diogelwch. Ewch i weld aelod o dîm y llyfrgell os bydd hyn yn digwydd i chi
- Lifft – Mae derbynfa'r llyfrgell yn cael ei chyfrif fel lefel 1. Dewiswch y llawr gwaelod i fynd â'r lifft i lefel yr islawr (Stac), a lefel 2 ar gyfer yr hyn y byddech chi'n meddwl yw'r llawr cyntaf!
Mae'r Stac yn cynnig lle i fyfyrwyr astudio a nifer o fyrddau i wneud eu gwaith. Archifau a chasgliadau arbennig yw'r rhan fwyaf o'r pentwr, sy'n golygu bod y rhan fwyaf o'r ystafell yn llawn rhesi o Silffoedd Llyfrau ar olwynion ac yn cael eu gweithredu i agor ar granc olwyn nyddu.
Ìý
Mae'r grisiau hyn yn arwain at wahanol rannau o'r Llyfrgell, sef ystafell ddarllen Shankland ac ystafell ddarllen Richard.
Mae'r coridor yn hir ac yn gul i gyrraedd y ddau le hyn. Mae'r ardal ychydig y tu allan i ystafell ddarllen Richards lle byddwch chi'n dod o hyd i'r tîm cymorth addysgu a dysgu. Mae’r tîm hwn yn darparu cymorth manwl i fyfyrwyr a staff i:
- defnyddio offer digidol
- darganfod, archwilio a gwerthuso adnoddau ar gyfer dysgu ac ymchwil
- gwella sgiliau astudio a meithrin galluoedd digidol.
Maent hefyd yn cynnig:
- ymgynghoriadau 1-i-1 dwyieithog
- gweithdai a hyfforddiant
- grwpiau trafod astudio ac ymchwilio
- cymorth ar-lein drwy e-bost (ar gyfer materion digidol) a Teams.
ÌýAr y grisiau hon mae cerdd o'r enw y Coleg ar y Bryn ar y wal.
Yma fe welwch ardal eistedd fechan yn cynnwys soffas a byrddau bistro lle gallwch fwyta neu yfed (ond dim bwyd poeth os gwelwch yn dda).
Ìý
Shankland yw ein hystafell ddarllen fwyaf mawreddog. Mae’n ystafell dawel – felly dim sŵn pan yn yr ystafell hon os gwelwch yn dda, ac, fel ystafelloedd darllen eraill, dim bwyd na diod i mewn yma chwaith. Mae'n iawn yfed diodydd a bwyd oer yn ardal y soffa yn union y tu allan i Shankland.
Ìý
Mae'r Ystafell Richard yn un o bedair ystafell ddarllen yn y Brif Lyfrgell. Mae hon yn ystafell dawel. Cofiwch gadw sŵn i'r lleiafswm pan fyddwch chi yma – sgyrsiau sibrwd yn unig. Hefyd, peidiwch â dod â bwyd na diod i'r ystafell hon. Mae croeso i chi fwyta bwyd oer ar un o’r soffas neu wrth un o’r byrddau bistro yn rhywle arall yn yr adeilad. Ni ddylech ddod â bwyd poeth i mewn i'r adeilad.
Ìý
Oriau Agor
PWYSIG - MYNEDIAD GYDA'R NOS A'R PENWYTHNOS I'R BRIF LYFRGELL
Mae prif fynedfa'r llyfrgell bellach wedi ail-agor ac mae modd ei chyrraedd trwy'r cwad allanol sydd newydd ei ail-wampio.
Bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gael mynediad i'r llyfrgell ar ôl 5yp yn ystod yr wythnos, a thrwy gydol y cyfnod agor dros y penwythnos
Does dim mynediad uniongyrchol i/o'r llyfrgell drwy brif adeilad (ystafell ddarllen Lloyd) ar benwythnosau. Defnyddiwch brif fynedfa'r llyfrgell.
Cliciwch ar y tab i bob cangen unigol i gael gwybodaeth benodol am yr oriau agor a'r gwasanaethau sydd ar gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd a lleoliadau astudio cymdeithasol.
Lleoliadau -ÌýLawrlwythwchÌýMap y Campwsi ddod o hyd i'n gwahanol ganghennau.. .
Llyfrgell ar-leinÌý- gwnewch ddefnydd hefyd o'n casgliad helaeth o adnoddau ar-lein sydd ar gael trwyÌýchwiliad llyfrgell
PWYSIG - MYNEDIAD GYDA'R NOS A'R PENWYTHNOS I'R BRIF LYFRGELL
Mae prif fynedfa'r llyfrgell bellach wedi ail-agor ac mae modd ei chyrraedd trwy'r cwad allanol sydd newydd ei ail-wampio.
Bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gael mynediad i'r llyfrgell ar ôl 5yp yn ystod yr wythnos, a thrwy gydol y cyfnod agor dros y penwythnos
Does dim mynediad uniongyrchol i/o'r llyfrgell drwy brif adeilad (ystafell ddarllen Lloyd) ar benwythnosau. Defnyddiwch brif fynedfa'r llyfrgell.
Oriau Agor
Ìý |
Oriau Agor |
Oriau Cymorth |
Llun - Gwener |
8.30yb – 8.00yp |
8.30yb – 6.00yp |
Sadwrn a Sul |
12.00yp – 5.00yp |
12.00yp – 5.00yp |
Mae’r llyfrgell ar Gampws Wrecsam yn darparu adnoddau helaeth i staff a myfyrwyr sy’n gweithio ac yn astudio ar y safle, ac mae’n cynnwys casgliadau print nyrsio, bydwreigiaeth, radiograffeg a gwyddorau iechyd.
Yn ystod oriau gwasanaeth gyda staff (gweler y tabl isod) mae ein tîm cefnogaeth wrth law i'ch helpu gyda'n gwasanaethau a'n cyfleusterau. Gallwch gysylltu â'r tîm trwy anfon e-bost iÌýllyfrgell@bangor.ac.uk
Oriau Agor
.Ìý |
Oriau agor yr adeilad - mynediad i gyfrifiaduron personol a mannau astudio |
Oriau gwasanaeth gyda staff |
Llun - Iau |
24/7 |
9.00yb to 6.00yh |
Gwener |
24/7 |
9.00yb to 5.00yh |
Sadwrn a Sul |
24/7 |
ar gau |
Mae ein hystafelloedd cyfrifiadurol a’n mannau dysgu cymdeithasol wedi eu lleoli ar lefel 5 adeilad Pontio (bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gael mynediad ar adegau).
Mae cyfrifiaduron desg sefydlog ar gael i chi eu defnyddio (wedi eu ffurfweddu ar hyn o bryd ar gyfer gweithio'n ddiogel yn unol â rheoliadau Covid).Ìý
Mae hefyd ddigon o le i weithio gyda'ch gliniadur/llechen gyda chysylltiad diwifr a digon o socedi i ailwefru.
Mae’r lleoliadau yn adeilad Pontio yn agored am oriau maith a gallwch fwynhau cyfleusterau eraill Pontio hefyd, sy’n ei wneud yn lle gwych i weithio yn eich amser eich hun.
Gall unrhyw un ymweld â’r Brif Lyfrgell neu â Llyfrgell Wrecsam i bori drwy’r adnoddau ar ein silffoedd a’u defnyddio at ddibenion cyfeirio. Gallwch chwilioÌýÌýgartref, neu yn defnyddio’r cyfrifiaduron catalog yn y llyfrgell.
Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, trigolion gogledd Cymru sy’n aelodau o’u llyfrgell gyhoeddus leol, a staff a myfyrwyr prifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd o bosibl yn gymwys i fod yn aelodau benthyca o’r llyfrgell. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atÌýLlyfrgell@bangor.ac.uk.
Manylion Cyswllt a Lleoliad
Y Brif Lyfrgell, Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG
Y Brif Lyfrgell
Llyfrgell Wrecsam, Berwyn House, Archimedes Centre, Wrecsam Technology Park, Wrecsam. LL13 7YP