Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Crafnant | Pentref Ffriddoedd

Ystafelloedd yn addas ar gyfer: Myfyrwyr Ôl-raddedig

Neuadd Crafnant, adeilad 5 llawr, gyda coed, glaswellt a awyr las

Crafnant

  • 72 o ystafelloedd en-suite
  • Ystafelloedd mwy ar gael
  • Ystafelloedd mewn fflatiau i ferched yn unig ar gael
  • Ystafelloedd mewn fflatiau di-alcohol ar gael
Myfyrwyr yn cerdded ger Neuaddau Preswyl Ffriddoedd

Pam dewis Pentref Myfyrwyr Ffriddoedd?

  • Gyda tua 2,000 o ystafelloedd, mae'n cynnig awyrgylch prysur a chymuned fywiog.Ìý
  • Mewn amgylchedd dymunol, mae'r amgylchedd byrlymus hwn yn lle delfrydol i setlo yma fel myfyriwr.Ìý
  • Wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at y rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol, siopau, bywyd nos, a chysylltiadau trafnidiaeth.Ìý
  • Mae rhai ystafelloedd yn cynnig golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd Eryri.Ìý
  • Mae'r cyfleusterau'n cynnwys ystafelloedd cyffredin, Bar Uno a siop.Ìý
  • Mae prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, sydd wedi'i lleoli ar y safle, yn annog ffordd iach ac egnïol o fyw.Ìý
  • Rydym yn tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU, sydd wedi'i gynllunio i ddiogelu eich hawliau i lety diogel o ansawdd da.
    Ìý

Cyfleusterau ym Mhentref Ffriddoedd

  • Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
  • Diogelwch 24/7
  • Mynediad cerdyn/allwedd diogel
  • Bar Uno
  • SiopÌý
  • Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
  • Canolfan Chwaraeon
  • Ystafell gyfrifiaduron
  • Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
  • Wi-Fi cyflym
  • Ystafelloedd cyffredin
  • Ystafell sinema
  • Golchdy
    Ìý
  • Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (£20)

Ffriddoedd Village

Lleoliad Pentref Ffriddoedd

Mae Pentref Ffriddoedd o fewn pellter cerdded hawdd i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol a'r dref. Ar y safle, mae Bar Uno, canolfan chwaraeon y Brifysgol a siop gyfleus.Ìý

Ìý0.6 milltir o Brif Adeilad y CelfyddydauÌý

Ìý13 munud o gerdded i Brif Adeilad y Celfyddydau

Ìý6 munud o feicio i Brif Adeilad y CelfyddydauÌý

Ìý0.3 milltir i’r archfarchnad agosafÌý

Pentref Ffriddoedd

Gwybodaeth Bwysig am Neuaddau

Mae'r wybodaeth a gyflwynir ar y dudalen hon ynglŷn ag opsiynau llety'r Brifysgol, gan gynnwys disgrifiadau, ffotograffau, cynlluniau llawr, a chyfleusterau, wedi'i bwriadu fel canllaw cyffredinol a gall fod yn destun newid. Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, nid yw'r Brifysgol yn gwarantu ei bod yn gyflawn nac yn gyfredol. Mae argaeledd llety, nodweddion penodol, a chyfraddau rhent yn destun newid heb rybudd. Anogir darpar breswylwyr i gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau yn uniongyrchol i gadarnhau manylion penodol ac argaeledd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu opsiynau llety yn ôl yn ôl ei disgresiwn.