Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Peter Crosby

Ymchwilydd Doethurol

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr?ÌýÌýSwydd Gaer yw cartref fy 'hynafiaid', wedi fy ngeni yn Nantwich ac wedi byw y rhan fwyaf o’m bywyd yn Altrincham. Fodd bynnag, mae fy llinach yn adrodd stori ychydig yn wahanol gyda gwreiddiau teuluol yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon, Lithwania, a Sgandinafia, ond hefyd cysylltiadau teuluol â'r Alban, Ewrop, America, a Seland Newydd.Ìý Ers yr wyth mlynedd diwethaf mae prydferthwch Bae Trearddur, Ynys Môn wedi bod yn gartref ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau am amser hir iawn.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol?ÌýEi deitl gweithredol presennol yw, Coffau Rhyfeloedd Napoleon: Astudiaeth a dadansoddiad o sut a pham y bu i Brydain goffau ei rhan yn y Rhyfeloedd Chwyldroadol a Napoleonaidd (1792 – 1815). Er wrth i’r ymchwil ddatblygu, dydw i ddim yn siŵr bellach mai dyma’r teitl hollol gywir i’w gael… gwyliwch y gofod hwn.ÌýYmunais â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn Chwefror 2021, ar ddechrau fy ymchwil ôl-radd. Fodd bynnag, fy nghysylltiad cyntaf â’r Sefydliad oedd yn ystod fy mlynyddoedd Israddedig, yn mynd i'r darlithoedd gyda’r nos rheolaidd. Yna mi wnes i gwblhau Interniaeth Israddedig, trwy’r Sefydliad, ar Dŵr Marcwis yn 2019.Ìý

Ymchwilydd Doethurol Peter yn sefyll o flaen baner ISWE.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil?ÌýHanes cymdeithasol trwy ymchwilio i ddiwylliant materol, a'r pwnc cyfredol yw henebion cyhoeddus a adeiladwyd trwy danysgrifiad cyhoeddus. Beth maen nhw'n ei ddweud wrthym am y digwyddiadau/pobl sy'n cael eu coffáu a'r cymdeithasau a'u hadeiladodd. Yn fwy cyffredinol mae gen i ddiddordebau mewn pethau fel, Cestyll, Plastai (bum yn byw mewn un am gyfnod byr), y Chwyldroadau amrywiol (Gwyddonol, Amaethyddol, Diwydiannol, Technolegol a Gwleidyddol), hanes cymdeithasol, hanes cludiant yn bennaf, camlesi, rheilffyrdd ond yn gynyddol, ffyrdd. Mae gen i is-brojectau ad-hoc hefyd, e.e., dwi wedi bod yn ymchwilio i’r catalogau ac yn ystyried effaith diwylliannol labeli recordiau diwedd y 60au a dechrau’r 70au, fel ‘Harvest’, ‘Island’, ‘Vertigo’, ac ati. Rwyf hefyd yn ymchwilio i ddylunio, adeiladu a thrwsio gitarau. Weithiau byddaf hefyd yn tyrchu i mewn i hanes Ffotograffiaeth.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol?ÌýRwyf wedi gwneud dipyn o 'bethau eraill', gan arwain at lawer o brofiad gwaith/bywyd, ond ychydig o gymwysterau ystyrlon hyd at yn ddiweddar. Ym 1967 es i athrofa Gatholig, gyda'r syniad o ymuno ag urdd addysg grefyddol, ond yn lle hynny darganfûm absenoldeb llwyr ffydd grefyddol, felly, ym 1969 symudais yn ôl i addysg brif ffrwd. Ni wnaeth unrhyw les i mi, gan imi adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau o unrhyw fath yn 1972. Nesaf, treuliais flwyddyn mewn Coleg Technegol a roddodd 5 lefel O i mi mewn pynciau gwyddoniaeth, a symud ymlaen i astudio Safon Uwch, mewn Mathemateg, Ffiseg a Chemeg. Oherwydd salwch, ymestynnodd hyn dros dair blynedd, ond yn anffodus roedd canlyniadau’r arholiadau yn wael. Tra’r oedden yn yr ysgol a'r coleg roeddwn i hefyd yn gweithio ar benwythnosau ar stondin marchnad.

Ym 1977, ymunais ag ILFORD Photo, fel cynorthwyydd labordy ymchwil yn gweithio mewn tîm a oedd yn datblygu cynhyrchion ffotograffig du a gwyn newydd. Mae arna i bopeth i'r addysg a’r hyfforddiant a roddodd ILFORD (Harman Technology bellach) i mi. Fy nhasgau cyntaf oedd ysgubo lloriau a glanhau'r labordai, 26½ mlynedd yn ddiweddarach gadawais fel un o'u harbenigwyr dynodedig ar ddylunio, gweithgynhyrchu a chymhwyso cynhyrchion ffotograffig a ffotograffiaeth. Fe wnaeth ILFORD, a’m cydweithwyr yno, fy helpu i ddatblygu llawer o sgiliau. Fel aelod o’u tîm Gwasanaeth Technegol am 15 mlynedd bûm yn helpu i ddylunio a gweithgynhyrchu llawer o gynhyrchion a theithio’r byd yn datrys materion technegol cwsmeriaid, gan eu helpu i adeiladu eu busnesau.

Yn 2006 dechreuais weithio i 'The Centre for Modern Optics', a oedd ar y pryd yn rhan o Brifysgol Glyndŵr (NEWI) yn yr OpTIC Technium, Llanelwy. Roedd yn gytundeb ymchwil dros dro am ddwy flynedd, yn goruchwylio dyluniad deunydd ffotograffig a oedd yn addas ar gyfer recordio hologramau analog lliw llawn (delweddau 3D). Fe wnes i hefyd redeg a chynnal y labordai recordio hologramau.

Yn 2008, ymunais â View Holographics Ltd (VHL) fel eu rheolwr cynhyrchu. Roedd VHL yn fusnes ymchwil a datblygu masnachol newydd, yn dylunio deunyddiau, peiriannau, a phrosesau i wneud hologramau o ffynonellau digidol. Yn VHL dyluniais ddeunydd arian halid nano-ronyn a oedd yn addas ar gyfer recordio hologramau a gynhyrchir naill ai drwy ddulliau analog neu ddigidol. Yn 2013, am y gwaith a wnaed ar dechnegau delweddu 3D, dyfarnwyd ‘Oscar Technegol’ i’r tîm ymchwil gan yr Academic of Motion Pictures, (na; ches i ddim mynd i’r seremoni yn Hollywood). Yn anffodus, er gwaethaf y llwyddiannau technegol, caeodd y busnes yn 2014 oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol gynaliadwy.

Daeth fy amser yn OpTIC a 'hud' yr hologramau â mi i gysylltiad rheolaidd â staff academaidd Glyndŵr. Rhoddodd sgyrsiau gyda nhw'r syniad i mi o geisio astudio am gymwysterau uwch. Tua 2013, ar y cyd â Phrifysgol Bangor, bûm yn gweithio ar broject bach i wneud hologram o’r Gogarth, ac roedd project wedi’i gynnig i hologramau fod yn rhan o addurn Pontio, ond ni chafodd ei gwblhau. Roeddwn i wedi mwynhau gweithio gyda'r criw o Fangor. Arweiniodd hyn at wneud cais i fod yn fyfyriwr israddedig ym Mangor i astudio hanes, a ddechreuais ym mis Medi 2015. Pam Hanes? Diddordeb gydol oes ym mhopeth hanesyddol ac awydd i weithio mewn maes amgen.Ìý Pam fy mhroject ymchwil ôl-radd presennol? Esbonnir hynny’n fanwl mewn man arall.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol?ÌýRwyf wrth fy modd yn ymchwilio i bethau, unrhyw beth sydd o ddiddordeb i mi, mae bod yn ymchwilydd ôl-radd ac yn rhan o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn rhoi rhyw ddiben a ffocws i mi i'r pethau rwy'n ymchwilio iddynt. Yr hyn rydw i wir yn ei hoffi am y Sefydliad yw'r amrywiaeth eang o bynciau hanesyddol sy'n dod o dan ei gylch gorchwyl. Rwy'n mwynhau dod i wybod am ddiddordebau pynciol fy nghyd Ymchwilwyr Ôl-radd, a'r gwahanol ddulliau y maent yn eu defnyddio i wneud eu hymchwil.

Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru?ÌýYsgrifennu'r adroddiad interniaeth i’ Ymddiriedolaeth Tŵr Marcwis, a rhoi cyflwyniad ar y cyd, gydag Alex Anglesey am ei hynafiad, yr Ardalydd 1afÌýa'r tŵr a godwyd i’w anrhydeddu, yng nghynhadledd Hanes y Pedair Gwlad ym Mangor yn 2019. Er, i fod yn fanwl gywir, mi wnaed y ddau ychydig cyn i mi ymuno'n swyddogol â grŵp ymchwil ôl-radd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham?ÌýRwy'n gweld yr holl hanes yn hynod ddiddorol, ond rwyf wedi darganfod bod fy mhrif gyfnod o ddiddordeb rhwng Bosworth a'r Rhyfel Byd Cyntaf. Os bydd yn rhaid imi fod yn fwy manwl fyth, y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fyddai hynny, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi bod â mwy o ddiddordeb ym materion y ddeunawfed ganrif. Mae fy niddordebau wedi canolbwyntio llawer ar Ewrop, ond rwy'n ehangu fy ngorwelion yn gynyddol i gynnwys golwg fwy byd-eang ar hanes.

Eich hoff le yng Nghymru a pham?ÌýMae hyn yn llawer rhy anodd i'w ateb. Rhai o’m hoff lefydd yw, Llandudno, Conwy, traethau Aberffraw a Llanddwyn, Bae Trearddur, Mynydd Parys; rydw i wedi gwirioni efo Arfordir Sir Benfro hefyd. Mae gan y rhain i gyd atgofion arbennig i mi, ond llawer o lefydd eraill hefyd.Ìý

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar?ÌýRwy'n mwynhau llyfr i'w adolygu 'Lives of a Lancashire Mansion' gan Colin Dickinson, sy'n ymchwilio'n ddiddorol i ychydig o hanes cymdeithasol drwy ddefnyddio plasty bach Fictoraidd fel canolbwynt iddo. Yn ddiweddar, ail-ddarllen Northanger Abbey a Persuasion. Am ychydig o hwyl dwi ar hyn o bryd wedi ymgolli yn The World of P.G. Wodehouse eto.ÌýRhaglenni teledu: Yn ddiweddar 'Breathtaking', 'Only Connect', 'Derry Girls', rhaglenni Rhufeinig Mary Beard. Rwy'n gwrando ar Gerddoriaeth gan amlaf (llawer ohono) yn hytrach na phodlediadau, ac ati. Yn ddiweddar rydw i wedi gwrando ar; Ezra Collective, Black Country New Roads, Hozier, Miles Davis, John Coltrane, Charlie Mingus, Dave Brubeck, Chet Baker, Mozart, Beethoven, Richard Thompson, Richard Hawley, Elvis Costello, Rolling Stones, King Crimson, First Aid Kit, 60s British Beat a bandiau Rhythm & Blues, a llawer mwy.Ìý

Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill?ÌýFy nheulu, fy nghi, cerdded pan alla’i. Chwaraeon, ni allaf gymryd rhan mwyach, ond rwy'n gefnogwr mawr o Rygbi, Criced a Beicio; rwy'n mwynhau gwylio'r rhan fwyaf o weithgareddau chwaraeon.ÌýGwrando ar gerddoriaeth, ceisio chwarae cerddoriaeth, dysgu cerddoriaeth, dylunio ac adeiladu gitarau trydan, a chynnal a chadw gitarau yn gyffredinol. Darllen, llenyddiaeth glasurol yn bennaf. Casglu llyfrau, recordiau finyl a chryno ddisgiau. Hanes technoleg a chludiant, yn enwedig ffotograffiaeth, camlesi a rheilffyrdd.

What are your hobbies or favourite extracurricular activities? Have you got any other interesting projects on the go?ÌýMy Family, my dog, walking when I can.ÌýSport, I can no longer take part, but I am a big fan of Rugby, Cricket and Cycling; I enjoy watching most sports activities.ÌýListening to Music, attempting to play music, learning music, designing & building electric guitars, and guitar maintenance in general.ÌýReading, mostly classic literature.ÌýCollecting books, vinyl records and CDs.ÌýThe history of Technology and Transport particularly photography, canals & railways.

Cysylltwch â Peter:

hiu65c@bangor.ac.uk