麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:

Neuadd Gregynog

Dr Mary Oldham

Teitl y prosiect:听'Proprietors, people, transition and change on a Welsh estate: Gregynog Hall, Montgomeryshire, 1750-1900'

Ymchwilydd Doethurol:听Mary Oldham

Goruchwylir gan:听Dr Shaun Evans a Dr Lowri Ann Rees

Cefnogir yr ymchwil gan:听Cefnogir yn hael gan Ymddiriedolaeth Gregynog

惭补别听听yn enwog fel cyn-gartref y casglwyr celf Gwendoline a Margaret Davies, ac fel canolfan gynadledda Prifysgol Cymru.听 Hyd at 1913 bu鈥檔 bencadlys i un o'r ystadau tiriog hynaf yn Sir Drefaldwyn: yng nghanol rhwydweithiau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol a ymestynnai dros plwyfi cyfagos a thros y ffin i Swydd Amwythig a Swydd Gaerloyw; rhwydweithiau a greai ymdeimlad cryf o hunaniaeth a chyswllt 芒 Gregynog.

Ffotograff o Neuadd Gregynog, plasdy du a gwyn

Mae'r astudiaeth hon o hynt a helynt Gregynog mewn cyfnod o newid cymdeithasol a gwleidyddol yn ceisio cyfoethogi ei hanes a chynnig safbwyntiau newydd ar hunaniaeth a chymdeithas mewn sir wledig yng Nghymru.听 Mae鈥檙 prif them芒u yn cynnwys:

  • Perchnogaeth tir a鈥檙 olyniaeth linachyddol, gan gynnwys r么l merched mewn olyniaeth ystadau;
  • Lleoliad daearyddol a diwylliannol ar Ororau Cymru; twf, rheolaeth a r么l yr ystad yn yr economi leol; y newid o landlordiaid preswyl i landlordiaid dibreswyl; r么l asiantau;
  • Gwleidyddiaeth, bywyd cyhoeddus a diwylliant Cymru: landlordiaid Gregynog a thwf Rhyddfrydiaeth Sir Drefaldwyn mewn oes o newid cymdeithasol a gwleidyddol ac adfywiad yr ymwybyddiaeth genedlaethol Gymreig.

Mae ffynonellau archifol sy'n ymwneud 芒 hanes yr ystad ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Powys, Archifau Swydd Gaerloyw, ac yng Ngregynog ei hun.听 Cefnogir y cofnodion hyn gan astudiaethau hanesyddol pwysig, yn arbennig 'Melvin Humphreys' The Crisis of Community: Montgomeryshire 1680-1815 (Caerdydd, 1996).

Gweithgarwch diweddar:听Mae Mary wedi cwblhau鈥檙 prosiect ymchwil doethurol hwn yn ddiweddar.听Gallwch ddarllen mwy amdano yma.