Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Hugh Hughes Plas Coch

Cymraeg, Saesneg neu Brydeinig? Hugh Hughes Plas Coch ac Ynys Môn yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg

Plas Coch, plasty carreg goch gyda ffasâd cymesurol, talcenni gris brân, a phedimentau uwchben pob ffenestr.

Yn 2011, cwblhaodd yr Athro Robin Grove-White draethawd doethuriaeth ar y gŵr-gyfreithiwr o Fôn, Hugh Hughes Plas Coch (c.1548-1609), dan oruchwyliaeth Nia Powell. Dyma un o’r ysbrydoliaethau ar gyfer sefydlu’r Sefydliad ar gyfer Astudio Ystadau Cymru, a phenodwyd Robin yn Gadeirydd Bwrdd Cynghori'r Sefydliad i arwain datblygiad cynnar y ganolfan ymchwil.

Ers hynny mae Robin wedi datblygu ei ymchwil ar Hugh Hughes ac ystâd Plas Coch, gan gyhoeddi  gyda Chymdeithas Hynafiaethol Môn.

Mae’r astudiaeth hwn yn taflu goleuni ar gyfnod annatod yn hanes Cymru. O ganlyniad y Deddfau Uno, o ganol y cyfnod Tuduraidd ymlaen roedd yna beirianwaith gweinyddol a barnwrol newydd er mwyn llywodraethu Cymru, a chwaraeodd Gymry brodorol rôl fawr. Dadleuir weithiau fod hyn wedi annog uchelwyr Cymreig hunangeisiol i ‘seisnigeiddio’, a'r canlyniad oedd niwed i ddiwylliant ac iaith Cymru. Trwy archwilio bywyd a gyrfa un unigolyn o’r dosbarth hwn, y cyfreithiwr-tirfeddiannwr Hugh Hughes o Blas Coch ym Môn, dadleuir yr astudiaeth hwn i'r gwrthwyneb, sef fod y gyfundrefn weinyddol aml-haenog hyn wedi diogelu gwahanolrwydd Cymreig, oherwydd roedd cyfreithwyr addysgedig, dwyieithog fel Hughes yn hollbwysig i effeithiolrwydd y peirianwaith. Dangosir bod ei haddysg a’i hyfforddiant cyfreithiol Saesneg yn gydnaws â’i wreiddiau parhaus ym Môn Cymraeg ei hiaith, ac mae ei fywyd a’i yrfa yn cynnig prism ar gyfer deall gwahanol sefydliadau llywodraethu gogledd Cymru oherwydd roedd wedi ymwneud yn bersonol â’r rhan fwyaf ohonynt. Mae’n fwy priodol i feddwl am ffigyrau allweddol fel Hugh Hughes fel rhai oedd yn gweithredu ar ran ‘cymuned ddychmygol’ o ‘Brydain’, nag fel asiantau hegemoni Seisnig.