Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Dr Melvin Humphreys

Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd

Melvyn Humphreys presenting in front of an ISWE banner.

Treuliodd Melvin ei flynyddoedd ffurfiannol ar fferm ei deulu yng ngogledd Sir Drefaldwyn.  Ym Mhrifysgol Abertawe ymgymerodd â PhD ar 'Y Gymdeithas Wledig yn Sir Drefaldwyn yn y Ddeunawfed Ganrif' o dan oruchwyliaeth Dr David W. Howell, a arholwyd gan y diweddar Athro G.E. Mingay.  Y traethawd ymchwil hwnnw oedd sail cyhoeddi The Crisis of Community:  Montgomeryshire, 1680-1815 (Caerdydd, 1996), sy'n parhau’n destun allweddol yn hanesyddiaeth Cymru'r ddeunawfed ganrif ac yn un o'r astudiaethau sylfaenol sy'n llywio ac yn ysbrydoli'r rhaglenni ymchwil a ddatblygwyd gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Prifysgol Bangor.  Bu Melvin yn olygydd ar Gasgliadau Sir Drefaldwyn o 1987 i 1999, a chyfrannodd nifer o erthyglau at y cyfnodolyn hwnnw.

Ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn llywodraeth leol, mae Melvin bellach yn treulio ei ymddeoliad i ailystyried ac ailgynnau ei ddiddordebau ysgolheigaidd hirdymor, ac mae’n datblygu portffolio ymchwil a chyhoeddi pwysig sy’n canolbwyntio ar hanes cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Sir Drefaldwyn, ac yn arbennig felly ddylanwad y teuluoedd tiriog ac ystadau'r sir.  Mae hynny’n cynnwys cyfres o gyhoeddiadau ynglÅ·n â thai Sir Drefaldwyn: Garth:  A Welsh House with Three Histories (ar ddod).  Contract gyda Gwasg Prifysgol Cymru am lyfr fel rhan o'i chyfres newydd Race, Ethnicity: Wales and the World a olygwyd gan yr Athro Charlotte Williams a Dr Neil Evans sy’n dwyn y teitl Bryngwyn and Old Hope Pen: A Story of Wales and Jamaica.ÌýÌýÌý

Ar ei anterth, roedd Castell Powys yng nghanol un o ystadau mwyaf a mwyaf arwyddocaol Cymru.  Ei archif yw’r archif ystadol unigol fwyaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae casgliadau enfawr a chysylltiedig eraill yn Archifau Sir Amwythig, yr Archifau Cenedlaethol a’r Llyfrgell Brydeinig.  Gyda Murray Ll. Chapman a chyda chefnogaeth yr Is-iarll Clive a’r Llyfrgell Genedlaethol, yn 2022 rhestrodd Melvin gynnwys tua 250 o flychau a oedd heb eu catalogio o ddeunyddiau Castell Powys sydd yn y llyfrgell.  Ar hyn o bryd mae Melvin wrthi’n llunio hanes ystadau Powys, y castell a’r teulu a oedd yn berchen arnynt oddeutu 1660 hyd 1811, ac mae Murray Chapman yntau wrthi’n paratoi hanes y cyfnod cynharach oddeutu 1560 hyd 1660.  Dyma astudiaeth hynod amrywiol ac uchelgeisiol sy'n cwmpasu nifer o ddisgyblaethau cydgysylltiedig.  Mae'n amrywio o'r cyfnod y bu bron i’r teulu Herbert golli eu treftadaeth oherwydd eu cefnogaeth i Iago II; y colledion rhyfeddol a brofwyd yn ystod y 'Mississippi Bubble’ yn 1719-20, a'r dyledion rhemp a’u plagiai at ddiwedd y ddeunawfed ganrif.  Mae penodau ynglŷn â datblygiad Castell Powys fel plasty, y gerddi a chanfyddiadau twristiaid cynnar ohonynt.  Mae pennod neilltuol ynglŷn â theulu perthynol Herbertiaid Cherbury, a'u hystadau yng Nghymru a'u gwladychfa a fu o dan warchae yn ne-orllewin Iwerddon.  Mae pennod hefyd ynglŷn â Robert Clive a'i fab, a ffurfio treftadaeth Clive a unodd yn y pen draw ag ystadau Powys.  Mae penodau hefyd ynglŷn â gweinyddu ystadau, obsesiwn y teulu â chloddio am blwm, y modd y defnyddiasant eu buddiannau gwleidyddol, a'r ychwanegiadau enfawr at eu hystadau a ddeilliodd o’r amgaeadau seneddol.