12/22 Cyllid a Ddyrannwyd i Brosiectau Llesiant ar gyfer 2023
Bydd rownd ddiweddaraf cyllid llesiant ac iechyd CCAUC (HEFCW) yn galluogi Prifysgol Bangor i gyflawni ei nodau iechyd a lles strategol trwy cyfres o brosiectau arloesol a fydd yn cefnogi lles staff a myfyrwyr trwy gydol 2023.
Mae Strategaeth Iechyd a Lles Prifysgol Bangor 2020-24 yn amlygu pedwar nod allweddol yn ein gweithgareddau iechyd a lles, sef:
Ym mis Medi 2022 gwahoddwyd cydweithwyr i gyflwyno cynigion ariannu ar gyfer arian CCAUC i Fwrdd Strategol Iechyd a Lles y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Nicky Callow, 鈥淐awsom gynigion prosiect oedd yn dangos hoel meddwl a gwreiddioldeb, ac roedd gan y rhai y dyfarnwyd cyllid iddynt botensial mawr i fod o fudd i les staff a myfyrwyr.鈥
"Mae鈥檔 wych gweld pa mor bell rydym wedi symud ymlaen yn ystod y tair blynedd diwethaf gyda鈥檔 hagenda Prifysgol Iach, a thuag at ein nodau strategol. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle yma i ddiolch i Dr Gemma Griffiths. Daeth deiliadaeth Gemma fel APVC dros iechyd a lles i ben y mis hwn, ac mawr yw'r diolch iddi am ei gwaith caled, ei hymroddiad a鈥檌 gweledigaeth gyda鈥檙 agenda bwysig hon. Hoffwn hefyd ddymuno鈥檙 gorau i Andrew Edwards wrth iddo gymryd yr awennau ar yr agenda iechyd a lles fel rhan o'i bortffolio Dirprwy Is-Ganghellor.鈥
Y prosiectau llwyddiannus o dan ein nodau strategol yw:
Amgylcheddau Positif
Pecynnau lles ar gyfer Myfyrwyr Campws Wrecsam
Darparu pecynnau lles i fyfyrwyr sy鈥檔 rhydd o blastig, yn gynaliadwy, o ffynonellau lleol ac sy鈥檔 gyfeillgar i鈥檙 amgylchedd. Bydd y pecynnau鈥檔 cael eu darparu i fyfyrwyr newydd ar gampws Wrecsam gyda鈥檙 nod o hybu ymdeimlad o berthyn ac fel canolbwynt ar gyfer darparu gwybodaeth am sut i dderbyn cymorth ar gyfer eu lles.
Cyfres Lolfa Menopos i holl staff
O ganlyniad i gynllun peilot llwyddiannus yn Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, mae nawr croeso i holl staff ymuno 芒 chyfres chwe rhan ddechreuodd mis yma. Bydd pob un o'r sesiynau misol yn Lolfa'r Menopos yn cynnwys ffocws dysgu penodol ar y Menopos a gwella iechyd er mwyn cael profiad mwy cadarnhaol o鈥檙 menopos, ac yna sesiwn holi-ac-ateb a chyfle am sgyrsiau anffurfiol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Hyrwyddo ac ymgysylltu am iechyd
Darpariaeth Iechyd Meddwl Cyfrwng Cymraeg (myf.cymru)
Mae gwefan myf.cymru yn ffynhonnell adnoddau sy鈥檔 cael ei harwain gan fyfyrwyr gydag adnoddau wedi eu hadolygu鈥檔 glinigol a chymorth gan gymheiriaid ar gyfer iechyd meddwl a gynigir drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn hytrach na chyfieithu adnoddau Saesneg i鈥檙 Gymraeg, mae鈥檙 cynnwys ar y wefan yn dod o鈥檙 gymuned Gymraeg fel ei fod yn berthnasol i anghenion ieithyddol a diwylliannol penodol y gymuned o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Mae鈥檙 wefan ar gael am ddim i bob myfyriwr sy鈥檔 siarad Cymraeg ac fe鈥檌 cefnogir gan sianeli cyfryngau cymdeithasol gweithredol. Arweiniwyd y prosiect dwy flynedd hwn gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad ag Aberystwyth a鈥檙 Drindod Dewi Sant, a bydd yn parhau i hyrwyddo lles myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ar draws y tri sefydliad hyd at 2023, diolch i barhad grant CCAUC a alluogodd ei ddatblygiad yn y lle cyntaf.
Treialu e-fodiwl ar gyfer Staff am 鈥楬yblygrwydd Seicolegol鈥
O gyllid CCAUC yn 20/21, datblygodd cydweithwyr yn yr Ysgol Addysg fodiwl e-Ddysgu rhyngweithiol ar gyfer staff sy'n defnyddio modelau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i hyrwyddo gwybodaeth ac archwilio them芒u iechyd a lles.
Gan adeiladu ar hyn, bydd cyllid 22/23 yn galluogi amser staff i gefnogi鈥檙 gweithgareddau canlynol: bydd cynllun peilot yn cael ei brofi ar sampl fach o staff, a bydd grwpiau ffocws yn cael eu cynnal i helpu i adolygu鈥檙 modiwl e-ddysgu yn seiliedig ar eu adborth, gyda鈥檙 nod yn y pen draw o gynnig hyn i holl staff y Brifysgol erbyn 2024.
Atal Afiechyd a Sicrhau Iechyd Gweithgar
Hyfforddiant Gwylwyr
Yn 2021 cefnogwyd Gwasanaethau Myfyrwyr Bangor gan gronfeydd CCAUC i ddatblygu ei hyfforddiant Ymyrraeth Gwylwyr dwyieithog mewnol ei hun wedi鈥檌 deilwra i鈥檙 Brifysgol a鈥檌 chyd-destun. Er ei fod yn blaenoriaethu trais rhywiol fel y prif ffocws, mae hefyd yn ceisio mynd i鈥檙 afael 芒 mathau eraill o drais ac aflonyddu, megis cam-drin hiliol a throseddau casineb, gan gydnabod natur groestoriadol gwahanol nodweddion gwarchodedig ar drais ar sail rhywedd. Yn 2023 bydd Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu 1.5 awr o Hyfforddiant Ymyrraeth Gwylwyr i bob myfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf 鈥 amcangyfrifir y bydd y ddarpariaeth hyfforddi hon yn effeithio鈥檔 gadarnhaol ar gyfanswm o tua 1000 o fyfyrwyr, a thua 50 o aelodau staff.
Ymchwil a pholisi poblogaeth
Prosiect lles ar gyfer myfyrwyr ymchwil 么l-raddedig
Mae鈥檙 prosiect hwn yn brosiect llesiant 12 mis i archwilio ffactorau a allai ddiogelu neu waethygu鈥檙 risg o broblemau llesiant mewn myfyrwyr ymchwil 么l-raddedig. Bydd y cyllid yn darparu amser cyflogedig ac adnoddau i gefnogi ymchwilydd 么l-ddoethurol i gynnal arolwg o les myfyrwyr ymchwil 么l-raddedig ar sawl pwynt o'r flwyddyn. Bydd hyn yn galluogi'r Brifysgol i roi ymyriadau ar sail tystiolaeth ar waith ar gyfer myfyrwyr ymchwil 么l-raddedig. Bydd yr arolwg ar gael yn ddwyieithog.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r prosiectau uchod, cysylltwch ag Anna Quinn a.quinn@bangor.ac.uk.