10/23 Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd – dydd Mawrth, 10 Hydref
Bob mis Hydref mae sefydliadau a chymunedau ledled y byd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn y brifysgol rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyfforddwyr o fenter iechyd a lles yn y gweithle RCS a fydd yn rhoi cyflwyniad dwyieithog ar Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a gwahoddir yr holl staff i fynychu.
Anogir yr holl staff i ystyried sut i ffeindio’r amser i ymuno â’r sesiwn hon – Mae'r yn esbonio ei bod yn bwysig i bob un ohonom ddod yn fwy ymwybodol a gwybodus am iechyd meddwl a salwch meddwl, a hynny oherwydd nifer o resymau pwysig:
Cael gwared ar y stigma yn y gweithle
Un o brif fanteision annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl yn y gweithle yw cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â materion iechyd meddwl. Yn hanesyddol, mae iechyd meddwl wedi bod yn rhywbeth anodd ei drafod i lawer o bobl - trwy annog diwylliant o gyfathrebu agored, mae gweithwyr yn cael eu grymuso i siarad yn agored am unrhyw bryderon iechyd meddwl, gan wybod y byddant yn cael empathi a chefnogaeth.
Meithrin diwylliant gwaith cefnogol
Mae sgyrsiau agored yn creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dealltwriaeth ymhlith cydweithwyr a rheolwyr. Pan fydd gweithwyr yn teimlo'n gyfforddus yn trafod iechyd meddwl, maent yn fwy tebygol o ofyn am gymorth pan fo angen. Mae hyn yn arwain at ddatblygu diwylliant gwaith cefnogol sy'n cydnabod iechyd meddwl fel agwedd hanfodol ar les cyffredinol.
Gwella lles gweithwyr
Gall gweithle sy’n gwerthfawrogi sgyrsiau agored am brofiadau iechyd meddwl gael effaith gadarnhaol sylweddol ar les cyffredinol gweithwyr. Pan fydd gweithwyr yn gallu trafod eu teimladau a’r heriau y maent yn eu hwynebu mewn modd agored, maent yn llai tebygol o deimlo eu bod ar eu pen eu hun ac yn ddiymadferth. O ganlyniad, gall hyn leihau lefelau straen, cynyddu boddhad mewn swydd, a hybu morâl, gan arwain at weithlu sy'n ymgysylltu mwy ac sy’n fwy brwdfrydig.
Canfod ac ymyrraeth gynnar
Mae sgyrsiau agored hefyd yn golygu bod modd canfod problemau iechyd meddwl ac ymyrryd yn gynnar. Pan fydd gweithwyr yn teimlo'n gyfforddus yn mynegi eu pryderon, gall cydweithwyr a rheolwyr nodi problemau posibl a chynnig cymorth cyn gynted â phosibl. Anogir rheolwyr i ymgyfarwyddo â'r rhaglen newydd ‘Cymorth i Weithwyr’, a ddarperir bellach gan VIVUP ers 1 Hydref ac argymell hynny i unrhyw aelod o'u tîm a fyddai'n elwa o gael cymorth trwy siarad neu dderbyn cyngor ar ddyledion ac adnoddau lles. Gall pob aelod o staff 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn rhad ac am ddim.
Hyrwyddo mentrau iechyd meddwl rhagweithiol
Mae diwylliant sgwrsio agored nid yn unig yn mynd i’r afael â phryderon iechyd meddwl sy’n bodoli ar hyn o bryd ond hefyd yn annog dull rhagweithiol o ofalu am iechyd meddwl. Pan fydd gweithwyr yn teimlo y gallant drafod eu hiechyd meddwl yn agored, maent yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn mentrau o’r fath, gan arwain at well llesiant meddyliol yn gyffredinol. Un rhaglen o'r fath yw ein Hyrwyddwyr Lles Staff - Dyma un ffordd y caiff staff eu hannog i rannu eu pryderon neu brofiadau anodd gyda chydweithiwr y maent yn ymddiried ynddynt, yn anffurfiol ac yn gyfrinachol. Mae’r hyrwyddwyr wedi'u hyfforddi i wrando’n weithredol ac i gyfeirio’n effeithiol ac maent ar gael mewn sawl ysgol a chyfarwyddiaeth. Mae'r cynllun hwn yn ffordd bwerus iawn o hybu iechyd meddwl a chyfrannu hefyd at swyddogaeth ataliol.
Meithrin empathi a chynhwysiant
Mae sgyrsiau agored yn creu cyfleoedd i weithwyr ddeall yn well beth yw profiadau a safbwyntiau’r naill a’r llall. Ym mis Mai 2023 ymrwymodd Prifysgol Bangor i Adduned y Cyflogwr, Amser i Newid Cymru, sy’n amlinellu cynllun gweithredu beiddgar dros y blynyddoedd nesaf sydd â ffocws cryf ar hyrwyddo empathi a chydgefnogaeth ar draws y gymuned staff. Mae amgylchedd cynhwysol a chefnogol yn meithrin cydweithrediad ac ymdeimlad o berthyn, sy'n elfennau hanfodol ar gyfer cynnal iechyd meddwl.
Gwella cyfathrebu a datrys problemau
Mae sgyrsiau agored hefyd yn ymestyn i heriau sy’n gysylltiedig â gwaith, gan hwyluso cyfathrebu tryloyw a gonest. Pan fydd gweithwyr yn teimlo'n gyfforddus yn mynegi eu pryderon a'u syniadau, mae'n gwella prosesau datrys problemau a gall arwain at atebion mwy arloesol. Mae yn aml yn rhestru cyrsiau i hyrwyddo cyfathrebu effeithiol a chydweithredol, gan ddefnyddio offer sydd eisoes wedi profi eu gwerth er mwyn hunanfyfyrio a magu hyder.
Croeso i'r holl staff ymuno â’r weminar fyw ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a gyflwynir gan fenter RCS ddydd Mawrth 10 Hydref rhwng 12:30pm a 1:30pm, i gael y ddolen i ymuno.
Bydd recordiad o'r sesiwn ar gael ar y wefan iechyd a lles yn dilyn y digwyddiad.
Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles