Lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer y gymuned Fyddar
Mae dros 4000 o bobl yng Nghymru鈥檔 defnyddio tafodiaith Gymraeg Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith gyntaf neu ddewis iaith, ac fel gr诺p lleiafrifol, yn ieithyddol a diwylliannol, mae defnyddwyr iaith arwyddion Cymraeg wedi cyfrannu ers amser maith at gyfoethogi ac ehangu iaith a hunaniaeth ddiwylliannol y wlad.聽
Fodd bynnag, fel gr诺p lleiafrifol, maent hefyd yn wynebu nifer o heriau o ran cynrychiolaeth, cydnabyddiaeth hawliau, a mynediad at adnoddau.聽 Un maes yn arbennig yw eu hiechyd a鈥檜 llesiant yn gyffredinol. Yn anffodus, mae aelodau o'r gymuned o bobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn wynebu nifer o broblemau鈥檔 ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd ac anghyfartaledd o'u cymharu 芒 siaradwyr Cymraeg a Saesneg.
Gall hyn gynnwys unrhyw beth o wasanaethau dehongli anghyson, cyfathrebu gwael a all yn aml arwain at gamddiagnosis neu ddiffygion o ran diagnosis a thriniaeth, neu fod mewn mwy o berygl o ddiffygion o ran diagnosis a thriniaeth o glefydau cronig. O ganlyniad, mae hyn yn tueddu i arwain at waeth iechyd a gwaeth canlyniadau iechyd na'r boblogaeth gyffredinol.
Dychmygwch fod gennych broblem iechyd a鈥檆h bod chi鈥檔 gorfod wynebu rhwystrau ychwanegol oherwydd nad yw鈥檙 apwyntiadau gofal iechyd, yr wybodaeth ategol na鈥檙 gweithgareddau sy'n ymwneud 芒 llesiant ar gael yn eich iaith chi.聽
Mae aelodau o鈥檙 gymuned Fyddar hefyd ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl na鈥檙 boblogaeth gyffredinol.
Yn ogystal 芒 hyn, mae pobl Fyddar hefyd yn wynebu rhwystrau pan fyddant yn dymuno mwynhau'r awyr agored, megis treulio amser yn ein parciau cenedlaethol anhygoel a cherdded Llwybr Arfordir Cymru, oherwydd nad oes deunyddiau ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain.聽
Rwyf wedi bod yn gweithio gydag aelodau o聽Gymunedau Byddar sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru聽am dros bum mlynedd. Fel aelod o d卯m rhyngddisgyblaethol, sy鈥檔 cael ei arwain a鈥檌 gyd-gyfarwyddo gan aelodau o鈥檙 gymuned Fyddar sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, rydym wedi ymchwilio a nodi ffactorau sy鈥檔 effeithio ar iechyd a llesiant y gymuned Fyddar sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, ac sy鈥檔 effeithio ar eu mynediad at wasanaethau, adnoddau a gwybodaeth iechyd.聽 Mae'r gwaith hwn bellach wedi arwain at broject tair blynedd gwerth 拢1m wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau (AHRC). Mae鈥檔 un o blith nifer o raglenni grantiau sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd sydd wedi gwreiddio ers tro byd yng nghymunedau tlotaf Prydain trwy archwilio sut y gall systemau iechyd gydweithio'n fwy effeithiol 芒 chymunedau.聽
Cynlluniwyd y project hwn i fod yn gydweithredol, i gael ei arwain gan y gymuned ac, yn bwysicach na dim, i gael ei arwain gan bobl Fyddar; bydd yr holl bartneriaid yn cyd-lunio, yn cyd-ddylunio, ac yn rhoi atebion ar waith i anghydraddoldebau iechyd hysbys, a gwerthuso鈥檙 atebion hynny. Nod y project yw gwella gwasanaethau iechyd a gofal iechyd i bobl Fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn datblygu geiriadur ac adnoddau ar-lein i helpu dehonglwyr, darparwyr gwasanaethau a'r rhai sydd 芒 diddordeb mewn ieithoedd arwyddion ac ymchwil sy鈥檔 ymwneud ag iaith arwyddion. Rydym hefyd yn datblygu amrywiaeth o adnoddau, megis apiau sy鈥檔 cynnig canllawiau fideo i roi mynediad gwell at safleoedd treftadaeth ac apiau sy鈥檔 cynnig canllawiau fideo i wella mynediad at ein Parciau Cenedlaethol.
Mae hwn yn faes ymchwil sydd wedi ei danariannu鈥檔 hanesyddol, felly rydym yn obeithiol y bydd hyn yn dechrau cael effaith ac yn gwneud newidiadau gwirioneddol i鈥檙 gymuned sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru a thu hwnt.
Wrth i ni ddechrau ar y project, rydym yn awyddus i glywed gan aelodau o'r gymuned sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain sy'n dymuno cymryd rhan. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein聽gwefan ymchwil.
Dr Christopher Shank
Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth
Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau, Prifysgol Bangor