Mae Pijin/Pigeon, y nofel arobryn gan Alys Conran, sy’n ddarlithydd ysgrifennu creadigol yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, wedi cael ei addasu i mewn i ddrama lwyfan fydd yn cael ei pherfformio yng nghanolfan celfyddydau ac arloesi’r brifysgol, Pontio a thrwy Gymru dros y gwanwyn, gyda’r noson agoriadol yn Pontio ar nos Lun, 27 Chwefror.
Mae’n gynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, mewn cydweithrediad â Pontio.
Wedi’i lleoli yng nghysgod chwareli’r gogledd yn y ’90au cynnar, dyma stori afaelgar am dyfu i fyny, am bŵer geiriau, cyfeillgarwch a pha mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad.
Wrth i ymarferion fynd rhagddynt, cawsom ddau funud ag Alys Conran i ddarganfod sut mae hi'n teimlo wrth weld ei nofel lwyddiannus yn cael ei throi'n ddrama lwyfan….
Sut deimlad yw cael eich nofel arobryn yn cael ei addasu’n ddrama lwyfan?
Alys: Cyw (neu golomen) yn fflio'r nyth! Ella bod y teimlad chydig fel pan mae dy blentyn yn mynd i ffwrdd i'r coleg, ac yn dod nôl wedi eu trawsnewid mewn ffordd, ac wedi eu gwireddu fel person mewn ffordd wahanol. Ti'n falch ac yn emosiynol ar yr un pryd.
Ydych chi'n chwarae rhan fawr yn y cynhyrchiad, er enghraifft, oedd gennych chi law mewn sgriptio, castio, dylunio set ac ati?
Alys: Dwi wedi trio rhoi lle iddyn nhw i gael bod yn greadigol am mod i'n meddwl ei fod yn bwysig, efo addasiadau, bod y gwaith newydd yn cael ffindio ei hanfod ei hun. Dwi jyst wedi trio cynnig lot o ryddid, y lle iddyn nhw ddatblygu eu perthynas eu hynain efo'r cymeriadau, ac i roi digon o le iddyn nhw weithio mewn llwyr hyder greadigol.
Roedd fy mewnbwn creadigol i at y dechrau, yn trafod hanfod y llyfr, a thrafod syniadau mewn ffordd hwyl, greadigol efo Lee Lyford, y cyfarwyddwr, Bethan Marlow y dramodydd, a Carl Davies sydd wedi dylunio'r set. Aetho ni o gwmpas ardal y llechi am dro, yfed coffi, a chael sgyrsiau creadigol ar zoom hefyd, ac wedyn mi aethon nhw i ffwrdd i wneud y gwaith arbennig maen nhw wedi ei wneud.
Mi ges i weld y sgript ar ei ddraft gyntaf, a'r set, a'r castio, a rhoi unrhyw sylwadau oedd gen i. Mi es i lawr i Gaerfyrddin at ddechrau'r ymarferion hefyd. Teimlad mor od cael bod efo gymaint o bobl (35 yn y stafell ymarfer ar un pwynt ar y diwrnod cyntaf yna), sy'n gweithio mewn ryw ffordd tuag at addasiad o dy waith, pan mae nofelu yn waith mor breifat, mor ynysig. Jyst fi yn y sied oedd yna efo'r nofel wreiddiol! Oedd eu darlleniad cyntaf o'r nofel yn wefreiddiol. Dwi'n ffindio'r broses gydweithredol yma yn brydferth iawn, a dwi jyst wedi trio gwneud yn siwr eu bod nhw'n teimlo'n rhydd i adael i'r broses weithio yn ei ffordd hudolus ar y nofel, heb i syniad gyfyng o awdur unigol sy'n awdurdod ar y gwaith gael yn y ffordd.Â
Beth fyddwch chi’n gyffrous amdano/beth sy’n eich gwneud chi fwyaf nerfus am weld y ddrama am y tro cyntaf ar y noson agoriadol?
Alys: Pan ti'n sgwennu nofelau, mae dy ddarllenwyr yn cael eu profiad unigol eu hunain o'r gwaith, ym mhreifatrwydd eu tai. Tydi drama ddim fel 'na! Mae hynny am fod yn deimlad newydd i mi. Dwi'n nerfus am rannu gofod efo gymaint o bobl yn gweld Pijin/Pigeon ar yr un pryd, ac eto dwi'n edrych ymlaen, achos mae'n fraint cael tîm mor arbennig yn gweithio ar addasiad o ‘ngwaith.Â
Am ragor o wybodaeth a dyddiadau’r daith ewch i