Cyhoeddwyd Noah Greenhalgh, raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Bangor, yn un o brif enillwyr Gwobrau RTS Cymru Wales fel rhan o ddathliad blynyddol cynyrchiadau teledu a ffilm mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.
Enillodd ffilm 么l-raddedig Noah, Matchiko: The Last Settlement - cynhyrchiad byr wedi鈥檌 hanimeiddio 芒 thema amgylcheddol gref - y Wobr Crefft Myfyrwyr am waith Sain.
Astudiodd Noah radd Meistr mewn Cynhyrchu Ffilm ym Mangor ac mae bellach yn gweithio fel Animeiddiwr Cynorthwyol yn TAPE Community Music and Film ym Mae Colwyn.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Noah, 鈥淩oedd yn foment swreal, gan i mi gwblhau'r ffilm 鈥Matchiko鈥 mewn bwthyn bach ym mynyddoedd Eryri, ac felly roedd mynd o鈥檙 mynyddoedd i lwyfan gwobrau鈥檙 RTS wir yn anhygoel, er fy mod i鈥檔 nerfus dros ben!
鈥Mae鈥檙 holl gefnogaeth a鈥檙 caredigrwydd dw i wedi derbyn gan ffrindiau, fy nheulu a fy nhiwtoriaid wedi bod yn wych, ac yn sicr wedi fy ysbrydoli i barhau i ddefnyddio鈥檙 grefft o animeiddio er mwyn adrodd hanesion.
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd i fynychu seremoni wobrwyo鈥檙 RTS. Roedd dathlu creadigrwydd gyda rhai sy鈥檔 ymddiddori yn yr un maes mor fendigedig. Dyma noson fydd yn aros yn hir yn y cof!
Nid ffilm Noah oedd yr unig gynhyrchiad o Brifysgol Bangor i gael ei enwebu, gyda dau gynhyrchiad ffeithiol hefyd yn cyrraedd y rhestr fer mewn categor茂au eraill. Enwebwyd Ultimate Retro Party, ffilm fer yn canolbwyntio ar her ddringo wnaed gan Callum Brunskill, Rufina Kaloyanova a Grayson Stripling yn y categori Cynhyrchu Ffeithiol Israddedig. Derbyniodd Life with Emotions gan Shafin Basheer, portread o鈥檙 cerflunydd Nick Elphick o Landudno, hefyd enwebiad yn y categori Cynhyrchiad Ffeithiol 脭l-raddedig.
Meddai Dr Geraint Ellis, darlithydd yn y Cyfryngau, 鈥淩oedd hi鈥檔 noson wych, i Noah a鈥檙 cyn-fyfyrwyr eraill o Fangor gafodd eu henwebu. Maen nhw鈥檔 haeddu pob cydnabyddiaeth am eu llwyddiant - roedd 'na nifer gymharol fach o gategor茂au myfyrwyr, ond roedd o鈥檔 galonogol gweld sut roedd y gwobrau hyn wedi eu cyflwyno ochr yn ochr 芒鈥檙 gwobrau diwydiant yn ystod y seremoni, ac mi fanteisiodd y myfyrwyr ar y cyfle i sgwrsio efo pawb ar y diwedd. Roedd eu hareithiau wrth dderbyn y gwobrau wedi gwneud dipyn o argraff ar y gynulleidfa hefyd.鈥
Roedd cyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Bangor hefyd yn rhan o sawl cynhyrchiad a gafodd eu henwebu ac a gafodd lwyddiant, gan gynnwys Nia Roberts, a gynhyrchodd Hywel Gwynfryn yn 80, a enillodd y wobr am y cynhyrchiad Comedi neu Adloniant Gorau.