Cynllun Taith Llywodraeth Cymru yn Ariannu Taith Ymchwil i Baris
Yn ddiweddar cwblhaodd Dr. Jonathan Ervine, Pennaeth Ieithoedd a Diwylliannau Modern, daith ymchwil i Baris a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd ei waith ymchwil ar chwaraeon a sinema yn Ffrainc yn llywio llyfr sydd ar ddod ar wrywdod mewn ffilmiau chwaraeon Ffrengig cyfoes. Mae gwaith Dr. Ervine yn herio safbwyntiau genre traddodiadol, gan amlygu鈥檙 portread o athletwyr gwrywaidd bregus ac estheteg arloesol.
Dychwelodd Dr. Jonathan Ervine, Pennaeth Ieithoedd a Diwylliannau Modern, i Fangor yn ddiweddar ar 么l taith ymchwil i Baris a ariannwyd gan gynllun Taith Llywodraeth Cymru. Yn ystod y daith, bu鈥檔 gwneud ymchwil ar chwaraeon a sinema yn Ffrainc i baratoi at gyhoeddi llyfr ar y pwnc hwnnw sydd i'w gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.
Yn y llyfr, bydd Dr. Ervine yn canolbwyntio ar ddarluniau o wrywdod mewn ffilmiau chwaraeon Ffrengig cyfoes. Eglurodd sut y bydd y llyfr yn herio rhai syniadau a dderbyniwn am ffilmiau chwaraeon:
鈥淵n draddodiadol, mae pobl yn cysylltu ffilmiau chwaraeon 芒 dynion macho ystrydebol braidd a naratifau ystrydebol sy'n dangos timau neu unigolion yn cyflawni llwyddiant er gwaethaf pob disgwyl. Fodd bynnag, mae鈥檙 ymchwil yn dangos bod ffilmiau chwaraeon cyfoes Ffrainc fwyfwy鈥檔 darlunio athletwyr gwrywaidd sy'n cofleidio bregusrwydd. Yn ogystal, mae ffilmiau chwaraeon Ffrengig yn eithaf arbrofol hefyd ac yn torri tir newydd yn esthetig.鈥
Roedd Dr. Ervine wrth ei fodd ym Mharis yn gwneud ymchwil ar chwaraeon a鈥檙 sinema pan oedd prifddinas Ffrainc yn paratoi i gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf eleni:
鈥淏ydd yn hynod ddiddorol gweld beth fydd effaith y Gemau Olympaidd eleni ar le a phwysigrwydd chwaraeon yng nghymdeithas Ffrainc. Er mai prif ffocws fy nhaith ddiweddar oedd cynnal ymchwil archifol yn Llyfrgell Genedlaethol Ffrainc a'r Sefydliad Clyweledol Cenedlaethol, llwyddais i fynychu nifer o ddigwyddiadau diddorol a oedd yn rhan o'r Olympiad Diwylliannol. Ymhlith y rheini roedd arddangosfeydd mewn llefydd fel yr Amgueddfa Hanes Mewnfudo ac Amgueddfa'r Post ym Mharis, yn ogystal ag Amgueddfa Hanes Modern Montreuil. Roedd y rheini鈥檔 ddiddorol iawn o ran sut mae鈥檙 amgueddfeydd yn trafod chwaraeon Ffrainc mewn amrywiol gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a鈥檙 Gemau Olympaidd yn agos谩u.鈥
Yn ogystal ag ymweld 芒 nifer o archifdai ac amgueddfeydd, gwelodd Dr. Ervine sawl ffordd greadigol ac anarferol y bu diwylliant a chwaraeon yn rhyngweithio yn ystod yr Olympiad Diwylliannol. Roedd hynny鈥檔 cynnwys drama a oedd yn cyfuno reslo, barddoniaeth a llenyddiaeth, yn ogystal 芒 digwyddiad arall a gyflwynwyd fel 'Sporting Rhapsody' a oedd yn cymysgu cerddoriaeth glasurol, bregddawnsio a BMX.