Cyngerdd yn dathlu 100 mlynedd o ddawn gerddorol ym Mhrifysgol Bangor
Bydd cyngerdd mis Tachwedd Prifysgol Bangor yn dathlu鈥檙 cerddorion a fu鈥檔 dysgu, yn astudio ac yn rhannu eu doniau creadigol dros y ganrif ddiwethaf.
A鈥檙 brifysgol yn dathlu 100 mlynedd o greu cerddoriaeth, bydd y cyngerdd nesaf yn Neuadd Prichard-Jones nos Sul 27 Tachwedd am 7.30pm yn cynnwys gweithiau gan E T Davies, Dilys Elwyn Edwards, John Hywel, Caradog Roberts a William Mathias.
Arweinir y cyngerdd gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, Gwyn L Williams ac arweinydd y gerddorfa Chris Atherton, gydag unawdau gan y soprano Sioned Terry, y tenor Robyn Lyn Evans a鈥檙 bariton Jeffrey Williams.
鈥淢ae鈥檙 cyngerdd yn nodi can mlynedd o gerddoriaeth yn y Brifysgol, canrif a ddechreuodd gyda phenodi E T Davies yn Gyfarwyddwr Cerdd llawn amser a鈥檙 cyntaf un ym 1921-22,鈥澨
Bydd c芒n enwocaf E T Davies Ynys y Plant, sy鈥檔 agos at galon nifer o genedlaethau o sopranos, yn cael ei pherfformio yn y fersiwn gerddorfaol gan Arwel Hughes. Bydd hefyd yn cynnwys un o'r caneuon Cymraeg enwocaf erioed: Mae Hiraeth yn y M么r, a ysgrifennwyd gan Dilys Elwyn Edwards a fu'n dysgu鈥檙 piano yn yr Adran Gerdd yma ym Mangor.
鈥淢ae ei ch芒n yn cymryd ei lle鈥檔 naturiol ar lwyfannau cyngerdd y byd, ac yr un mor boblogaidd mewn neuaddau pentref mewn eisteddfodau lleol,鈥 eglura Gwyn L Williams. 鈥淢ae鈥檔 cael mwy o sylw, efallai鈥檔 annheg, na鈥檌 ch芒n hyfryd Cloths of Heaven, a drefnwyd yn arbennig i鈥檙 cyngerdd gan y gyfansoddwraig o Gymraes, Mared Emlyn, a hithau鈥檔 gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor.鈥
Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gweithiau gan Caradog Roberts a William Mathias.
鈥淢ae 50 mlynedd yn gwahanu cyfnodau Caradog Roberts a William Mathias ym Mangor,鈥 eglura Gwyn L Williams. 鈥淏u Caradog Roberts yn Gyfarwyddwr Cerdd rhan amser rhwng 1914 a 1929; penodwyd William Mathias yn Athro Cerddoriaeth ym 1970. Cwta hanner canrif sydd rhyngddynt, ond allai eu cerddoriaeth ddim bod yn fwy gwahanol. Ond, sut gallai celf a cherddoriaeth fod yr un peth ar 么l Passchendaele, Dresden, Hiroshima ac Auschwitz?鈥
鈥淢ae gwreiddiau cerddoriaeth Caradog Roberts yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a syniadau am Ymerodraeth a Christnogaeth. Dechreuodd William Mathias gyfansoddi mewn Prydain hollol newydd, a oedd wedi ei throi ben i waered. Heidiodd llawer o'r Ymerodraeth yma ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, mewn ymateb i alwad y llywodraeth am bobl i helpu ailadeiladu gwlad a chwalwyd. A daeth cenhedlaeth Windrush 芒 mwy na gweithwyr yn unig, daeth hefyd 芒 diwylliant a cherddoriaeth, yn llawn lliwiau, cerddoriaeth a rhythm llawen. Roedd gan William Mathias ddiddordeb mewn jazz ynghynt (o bosib trwy gerddoriaeth Gershwin), ac mi gafodd ei swyno gan gerddoriaeth y Carib卯. Ac mae鈥檔 amlwg yn harmon茂au, rhythmau a sgor cerddorfaol This Worlde鈥檚 Joie, a gaiff ei pherfformio gan y Corws ynghyd 芒鈥檙 ensemble lleol Cantorion Menai. Diddorol nodi hefyd y cafodd y testunau canoloesol a osododd Mathias i gerddoriaeth eu llunio gyda chymorth William Tydeman, a oedd yn Athro Saesneg ym Mangor ac yn y Brifysgol yr un adeg 芒鈥檙 cyfansoddwr.鈥
Bydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor hefyd yn perfformio鈥檙 Rondo for Orchestra 鈥 a gyfansoddwyd gan John Hywel i鈥檞 pherfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Eglura Gwyn L Williams, 鈥淵n y 1960au penodwyd John Hywel yn ddarlithydd cerddoriaeth yn y Brifysgol, swydd a ddaliodd am 30 mlynedd, a daeth yn Athro cyn ymddeol. Oni bai amdano ef, ni fyddai鈥檙 gerddorfa a'r corws yn bod heddiw. Er ei fod yn ddarlithydd llawn amser, roedd yn barod i roi amser i gyflawni r么l y Cyfarwyddwr Cerdd. Adfywiodd y gerddorfa a'r corws, a ffurfiodd gysylltiadau da i'r ddau ensemble, rhwng y staff, y myfyrwyr a'r gymuned. Mae Cerddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol yn dal i gynnwys aelodau o鈥檙 鈥渃oleg a鈥檙 dref鈥, ac maent yn parhau i anadlu bywyd a cherddoriaeth i鈥檙 neuadd gyngerdd wych yr ydym yn ymarfer ac yn perfformio ynddi, Neuadd Prichard-Jones.鈥
Tocynnau ar gael ar
Os hoffech ymuno ag un o ensemblau Prifysgol Bangor, cliciwch ar y
听