Christina Macaulay o BBC Cymru yn ymuno myfyrwyr is raddedig ffilm a'r cyfrangau
Ymunodd Christina Macaulay o鈥檙 BBC 芒 myfyrwyr ffilm a鈥檙 cyfryngau o'r flwyddyn gyntaf, ail a thrydedd heddiw. Mi roedd y sesiwn yn edrych ar be mae darlledwyr yn chwilio amdano yn BBC Cymru a sut i gael profiad o fewn y diwydiant.聽
Mae Christina yn gweithio fel Golygydd Comisiynu yn BBC Cymru ac wedi bod yn gyfrifol am ddod a rhaglenni dogfen a sioeau teledu poblogaidd i鈥檔 sgriniau. Yn ystod y sesiwn siaradodd Christina am y gyfres IPlayer Our Lives a'r hyn sydd ynghlwm wrth wneud rhaglenni dogfen o'r fath a sut y gallai myfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglenni tebyg. Gan roi enghreifftiau o sut mae eraill wedi ymuno 芒'r diwydiant a lle mae cyfleoedd ar gael ar hyn o bryd, cafodd ein myfyrwyr pnawn llawn o wybodaeth amhrisiadwy gan Christina.
Dywedodd Geraint Ellis, Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau, "Mae ymweliadau fel hyn yn werthfawr tu hwnt i鈥檔 myfyrwyr, ac roedden ni鈥檔 ddiolchgar iawn i Christina Macaulay am y cyfle i ddysgu mwy am waith comisiynu BBC Cymru Wales, a hefyd am rannu cyngor hynod o ddefnyddiol yngl欧n聽芒聽dilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Edrychwn ymlaen i barhau i groesawu rhagor o gynrychiolwyr o鈥檙 diwydiant i rannu eu profiadau a鈥檜 harbenigedd yn y dyfodol."