Mae llawer o bobl yn byw, yn gweithio ac yn perfformio mewn amgylcheddau sy鈥檔 naturiol straenus fel anialwch cras, jyngl llaith, moroedd garw, mynyddoedd uchel a gwyntog a thwndra rhewllyd. Mae gan ein hymchwilwyr hanes o ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am berfformiad dynol, iechyd, ac addasu i achosion straen amgylcheddol naturiol ac artiffisial fel gwres, oerfel, hypocsia, a golau'r haul.
Mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau sy鈥檔 defnyddio siambrau hypocsia a thermol pwrpasol ac alldeithiau ymchwil rheolaidd i'r Alpau Ewropeaidd, mynyddoedd yr Himalaya, a mynyddoedd yr Andes yn Ne America. Hyd yma, rydym wedi ymchwilio i sylfaen ffisiolegol ymatebion i straen amgylcheddol yn y tymor byr a鈥檙 tymor hir a dulliau newydd o sicrhau perfformiad ac iechyd ar y lefel orau bosib i bobl. Mae鈥檙 canfyddiadau ymchwil hyn wedi eu rhoi ar waith gan sefydliadau sy鈥檔 cynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn (Fyddin), y GIG, y British Mountain Guides a Mountain Rescue England and Wales, a busnesau gan gynnwys Outlook Expeditions, Blizzard Survival, a Camps International.
Yn y dyfodol, bydd straen amgylcheddol yn effeithio ar gymdeithas yn barhaol oherwydd heriau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cynnydd mewn tymheredd byd-eang, a digwyddiadau tywydd eithafol, fel cyfnodau o wres mawr a chyfnodau oer. Ar wah芒n i newid yn yr hinsawdd, efallai y bydd modd defnyddio gwell dealltwriaeth o'r rhyngweithio rhwng yr amgylchedd a phobl i wella iechyd, lles a chynhyrchiant cymdeithas. Mae ymchwil y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniad pwysig at bobl a chymdeithas yn y dyfodol. 听
听
Uchafbwyntiau
Darparu'r dystiolaeth ragarweiniol i gefnogi'r ddamcaniaeth mai newidiadau mewn pwysedd mewngreuanol sy'n gyfrifol am symptomau 'ar hap' salwch mynydd ac铆wt.
Cydnabod am y tro cyntaf bod baroceptors ysgyfeiniol yn bwysig wrth reoleiddio gweithgaredd nerfol sympathetig a phwysedd gwaed mewn cyflyrau hypocsig.
Nodi bod niwed i gyhyrau a achosir gan ymarfer corff yn ffactor risg ar gyfer salwch gwres o ganlyniad i ymarfer, a'i gymhlethdodau sy鈥檔 gysylltiedig ag anaf ac铆wt i'r arennau.
Pennu bod mwy o ffitrwydd ar lefel y m么r ac ychwanegiad carbohydrad dietegol yn gysylltiedig 芒 gwell perfformiad wrth gerdded ar uchder uchel.
Cyfrannu at ddatblygiad dull mesur salwch uchder a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Nodi buddiannau golau haul efelychiedig a fitamin D ar haint resbiradol.