Datblygu ymyriadau i atal a thrin clefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw
Rhannwch y dudalen hon
Mae gan y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol ddiddordeb arbennig mewn ymarfer corff a ffactorau maeth mewn iechyd corfforol a lles meddwl gydol oes. Rydym yn gwneud ymchwil sy'n cefnogi’r gwaith o drin ac adsefydlu pobl â chlefydau niwrolegol, cardiofasgwlaidd, anadlol a chyhyrysgerbydol, gan gynnwys Parkinson's, blinder cronig, arthritis rhiwmatoid, ac apnoea cwsg rhwystrol. Mae ein hymchwil yn datblygu ymyriadau i wella ffordd o fyw ac yn edrych ar achosion sylfaenol posib clefyd, e.e. eistedd gormod, pwysedd gwaed uchel, rheolaeth fasgwlaidd ac archwaeth gwael.
Un o'n nodau yw mynd i'r afael â’r argyfwng cymdeithasol mawr o glefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw. Mae clefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw fel gordewdra, diabetes, clefyd y galon, clefyd yr arennau, a llawer o ganserau yn bandemig: maent wedi datblygu'n llechwraidd dros ddegawdau ac maent bellach yn gyffredin ledled y byd. Yng Nghymru, mae’r argyfwng yn waeth oherwydd anghydraddoldeb iechyd. Ond mae clefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw, oherwydd eu natur, yn rhai y gellir eu hatal i raddau helaeth. Mae llwyddiant i ni yn edrych fel cynnydd parhaus yng nghanran yn boblogaeth sy’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgaredd corfforol (i fyny o ~40 i ~50% ar ddechrau’r ddegawd hon, ond yn sefydlog i raddau helaeth ers hynny), a gwelliant parhaus yn niet y genedl (bu gostyngiad yn y siwgrau rhydd, diodydd meddal wedi eu melysu â siwgr, sudd ffrwythau, ac asidau brasterog traws y mae pobl yn eu bwyta a’u hyfed ar ddechrau'r degawd hwn, ond mae cyfanswm braster, brasterau dirlawn, a siwgrau rhydd y mae pobl yn eu bwyta a’u hyfed yn dal i fod yn rhy uchel). Ìý
Ein nod yw dylanwadu ar ffordd o fyw'r genedl trwy ddefnyddio dull amlddisgyblaethol yn cynnwys biocemeg, ffisioleg integreiddiol, seicoleg newid ymddygiad, dadansoddiadau economaidd iechyd, ac ymyriadau gofal iechyd pragmatig a darbodus, i wella'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau i atal a thrin clefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw. Mae ein gwaith wedi ei alluogi gan ein cyfleusterau rhagorol sy’n cynnwys buddsoddiad o £1.033 miliwn mewn canolfan weithgarwch corfforol ar gyfer iechyd a lles, a chydweithio â byrddau iechyd lleol ac eraill, mentrau bach/canolig lleol, a chorfforaethau byd-eang. Er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith, rydym yn sicrhau ei fod wedi ei gyd-gynllunio â chleifion a’r cyhoedd, ei fod wedi ei gynllunio’n drylwyr, a’i fod yn cael ei ledaenu trwy ein rhwydwaith o staff a chydweithwyr sydd â swyddi dylanwadol mewn cymdeithasau cenedlaethol, grwpiau diddordeb arbennig, cyrff ariannu, a chomisiynwyr gofal iechyd.Ìý Ìý
Ìý
Uchafbwyntiau
Cynhyrchu canllawiau ymarfer a phrofi ar gyfer arthritis.
Cynhyrchu canllawiau ymarfer corff a ffordd o fyw ar gyfer neffroleg.
Cwblhau’r treial budd clinigol aml-ganolfan a chost-effeithiolrwydd cyntaf o ymarfer intradialytig i gleifion sy’n byw gyda chlefyd cronig yr arennau, wedi ei gyllido gan yr NIHR.
Cael cefnogaeth gan Gronfa Iach ac Egnïol Llywodraeth Cymru i werthuso effeithiolrwydd y project Babi Actif.