Nod ymchwil y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol yw gwneud y gorau o iechyd, perfformiad a datblygiad athletwyr a phoblogaethau eraill, fel y gwasanaethau arfog a鈥檙 gwasanaethau brys, gydol oes. Gwneir yr ymchwil hwn gyda phartneriaid lleol mewn diwydiant a chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys UK Sport, y Weinyddiaeth Amddiffyn (y Fyddin), Undeb Rygbi Cymru (URC), Chwaraeon Cymru, Codi Pwysau Cymru, Rhwyfo Cymru, Sboncen Cymru, Mapei Sports. 聽
Un o'n nodau yw deall a gwella perfformiad chwaraeon a pherfformiad pobl trwy ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar hynny, a dulliau o wella perfformiad yn ystod chwaraeon ac ymarfer corff. Er mwyn deall yn well beth sy'n arwain at y perfformiad gorau posib, rydym yn archwilio achosion ffisiolegol a seicoffisiolegol ac yn ymchwilio i newidiadau perfformiad o ganlyniad i straen, megis gwres, oerfel, uchder, colli cwsg, a chyfyngiad maethol. Mae ein hymchwil hefyd yn datblygu ac yn ymchwilio i ddylanwad hyfforddiant ymarfer corff newydd a dulliau adfer, cwsg, ac ymyriadau diet. Rydym hefyd yn edrych ar ffactorau allweddol yn natblygiad, iechyd a lles athletwyr yn eu gyrfaoedd a thu hwnt, e.e. monitro a lliniaru risg salwch ac anafiadau, a dull amlddisgyblaethol o ddeall datblygiad athletwyr a thalentau hirdymor.
Yn y dyfodol, nod y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol yw datblygu dulliau newydd o wella iechyd dynol, perfformiad a datblygiad athletwyr o chwaraeon cyfranogol i chwaraeon elitaidd.
Uchafbwyntiau
Newid diet ac ategu canllawiau ym myddin y Deyrnas Unedig i wella iechyd a pherfformiad recriwtiaid a milwyr.