Bydd ymchwil Beca yn canolbwyntio ar y modd y mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio o fewn y system addysg Gymraeg. Bydd yn dadansoddi sut y mae disgyblion ysgol a myfyrwyr yn ei ddefnyddio, a鈥檙 ffordd y mae athrawon a darlithwyr yn ei ddefnyddio yn eu gwaith.
Roedd Beca ar ben ei digon o dderbyn yr ysgoloraieth, fel y dywedodd:
"Diolch i'r ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg, byddaf yn gallu parhau 芒'm diddordebau i'r maes astudio hwn, a gobeithio, yn y pen draw, bydd yr ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial o fudd i'r iaith Gymraeg mewn byd cynyddol dechnolegol. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at gael cychwyn ar y ddoethuriaeth hon, ac yn edrych ymlaen at gael parhau i weithio gyda Cynog a Rhian."
Wrth ymateb i鈥檙 newyddion da, dywedodd Dr Cynog Prys, a fydd yn un o gyfarwyddwyr proesiect Beca:
鈥淩ydym yn hynod falch o dderbyn yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg. Ein bwriad yw edrych ar sut mae dyfodiad deallusrwydd artiffisial am gael dylanwad mawr ar sector addysg a鈥檙 byd gwaith. Mae鈥檔 hynod bwysig ein bod ni鈥檔 deall y modd y mae hyn yn mynd i effeithio ar addysg iaith Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Mae鈥檙 ysgoloriaeth yma yn mynd i alluogi ni i gynnal astudiaeth dwys i鈥檙 maes cyffroes hwn. Rydym hefyd yn falch iawn o fod efo Beca fel deiliaid yr ysgoloriaeth. Roedd Beca yn fyfyriwr israddedig cymdeithaseg yn y brifysgol, ac wedi astudio鈥檙 pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hi鈥檔 fyfyriwr gwych ac rydym yn edrych ymlaen i weld hi鈥檔 parhau gyda eu hastudiaethau, yn enwedig gan ei fod mewn maes mor gyffroes.鈥
Go dda, Beca!
听