Thema Colocwiwm Rhwydwaith YGC 2024 a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor oedd ‘Cymru Gysylltiedig: Datblygu eich Gyrfa fel Ymchwilydd yng Nghymru a Thu Hwnt’. Trefnwyd y digwyddiad gan Golocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Roedd hwn yn gyfle amhrisiadwy i rai o YGC Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas gyflwyno eu gwaith a chymryd rhan mewn trafodaethau buddiol.
Ìý
Traddododd Ms Lois Nash, sy'n ddarlithydd yn y Gyfraith ac ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect PhD sy'n archwilio goblygiadau cyfreithiol a moesegol ewthanasia, ddarlith fflach 8 munud ar ei phwnc ac ysgogodd lawer o drafodaethau difyr. Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Lois, "Roedd yn brofiad da cael cyflwyno fy ymchwil i ymchwilwyr mewn amrywiol feysydd, ac mewn ffordd mor gryno."
Ìý
Rhoddodd , ymchwilydd PhD gyda Sefydliad Astudio Ystadau Cymru (ISWE), sgwrs am ei brosiect doethuriaeth, gan amlygu sut mae ardal Eryri wedi esblygu’n sylweddol, o ran archeoleg, diwylliant, daearyddiaeth ac iaith.
Ìý
Roedd cyflwyniad Alex yn olrhain y newid yn y canfyddiadau o Eryri dros y 300 mlynedd diwethaf hyd heddiw, lle ystyrir Eryri yn hanfodol ecolegol ac yn arwyddocaol yn ddiwylliannol. Fodd bynnag, mae ei thirweddau a bioamrywiaeth yn newid tra'n dod yn fwyfwy agored i newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Gwaethygir y ffaith hon gan ganfyddiadau a disgwyliadau hanesyddol gul o Eryri sy'n parhau â ffyrdd systemig cyfyngedig o feddwl. Yn ogystal, mae'r strwythurau yn gwneud penderfyniadau presennol yn dameidiog iawn, heb eu democrateiddio'n ddigonol ac yn brin o le i ddychymyg. Mae ei brosiect ymchwil doethurol rhyngddisgyblaethol yn archwilio’r wleidyddiaeth sydd wedi’i gwreiddio, y cysylltiadau pŵer, a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â Dyffryn Ogwen ac mae’n archwilio dychmygion newydd a fyddai’n cefnogi addasu a arweinir gan le. Mae ei brosiect yn ceisio llywio polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu cydweithrediadau seiliedig ar le a mabwysiadu dulliau amlddisgyblaethol o fewn dulliau ‘cynllunio lle’. Gyda hyn, tynnodd ar gyfweliadau lleol a deunydd archifol o Archifau Prifysgol Bangor.
Ìý
Yn dilyn y colocwiwm, dywedodd Alex, "Roedd y digwyddiad gan Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Bangor yn wych. Roedd y set o sgyrsiau fflach roeddwn yn rhan ohonynt yn ddiddorol iawn ac yn dangos ffyrdd ystyrlon y gall Cymru gyflawni'r Nodau Llesiant trwy gymhwyso ymchwil a chydweithredu yn y byd go iawn."
Ìý
Yn ogystal, cadeiriodd ein Hathro Martina Feilzer banel ar ysgrifennu grantiau, a oedd yn sesiwn addysgiadol a chraff. Roedd aelodau’r panel yn cynnwys:
Ìý
- Yr Athro Shelagh Malham, Athro mewn Bioleg Forol, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Gwyddorau Eigion, Deon Coleg Ymchwil Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Bangor.
- Yr Athro Simon Hands (FLSW), Athro Ffiseg Ddamcaniaethol a Chyfarwyddwr Datblygu Cymunedol, DiRAC Cyfrifiadura Perfformiad Uchel, Prifysgol Lerpwl. Aelod o Grŵp Cynghori YGC CDdC.
- Dominic Parkes, Awdur Cynnig Ymchwil-Datblygu a Golygydd yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol AbertaweÌý
- Dr Christie Smith, Rheolwr Datblygu Ymchwil, Cefnogaeth Ymchwil ac Effaith Integredig (IRIS), Prifysgol Bangor.
- Dr Fiona Dakin, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
- Shreya Choudhury, Swyddog Ariannu Ymchwil, yr Academi Brydeinig.
Ìý
Ysgogwyd y drafodaeth wych gan dri chwestiwn allweddol:
Ìý
- Sut i nodi cyfleoedd ariannu priodol a chynllunio'ch cais?
- Sut i ysgrifennu cais cystadleuol a chymhellol?
- Sut mae ceisiadau'n cael eu hasesu a beth sy'n digwydd nesaf?
Ìý
Ymatebodd y gynulleidfa’n dda a chan fyfyrio ar y drafodaeth, dywedodd yr Athro Feilzer, "Yn bendant, dysgais rywbeth gan y panel a gobeithio bod y fformat wedi gweithio i’r gynulleidfa hefyd. Gwnaeth CDdC waith gwych yn trefnu siaradwyr a fformatau’r diwrnod."
I ddarllen mwy am y sawl a gyfrannodd i'r colocwiwm, gweler y llyfryn atodol:Ìý.Ìý