Mae'r gwaith hwn yn edrych yn arbennig ar effaith y defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan fyfyrwyr ar eu hymddiriedaeth yn ogystal ag effaith sgandalau diweddar yr heddlu.听
Meddai鈥檙 Athro Machura:
鈥淵ng Nghymru a Lloegr, mae ymddiriedaeth yn yr heddlu wedi dioddef adroddiadau di-baid am wasanaeth gwael a chamymddwyn difrifol gan swyddogion. Mae cyfraniad y cyfryngau, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, at leihau ymddiriedaeth yr heddlu yn aneglur. Yn yr astudiaeth gyfredol, cwblhaodd myfyrwyr mewn pum prifysgol yn Llundain a Chymru holiadur i nodi ffactorau sy'n dylanwadu ar ymddiriedaeth myfyrwyr yn yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Amlygodd y canlyniadau gysylltiad cyfryngau cymdeithasol, teledu, ffilm, a nofelau ag ymddiriedaeth yn yr heddlu. O ran agweddau ar ymddygiad canfyddedig yr heddlu, roedd myfyrwyr yn arbennig o bryderus am ymateb i argyfyngau, cam-drin domestig ac agwedd swyddogion tuag at fenywod. Yr hyn sy鈥檔 allweddol yw鈥檙 ymateb canfyddedig i gam-drin rhywiol. Mae'r canlyniadau'n awgrymu y gellir gwella ymddiriedaeth yr heddlu trwy weithio gyda'r cyfryngau a thrwy wella'r ffordd y mae swyddogion yn rhyngweithio 芒 dinasyddion, yn enwedig menywod.
鈥淢ae鈥檙 prosiect yn arwain at fewnwelediadau unigryw a all ddylanwadu ar sut mae鈥檙 heddlu鈥檔 hysbysu鈥檙 cyhoedd a sut mae鈥檔 ceisio mynd i鈥檙 afael ag anghenion pobl ifanc.鈥
听