Millie a Kai yn cynrychioli Bangor mewn cystadleuaeth bwysfawr
Cynrychiolodd Millie Thompson a Kai Henson yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas a Phrifysgol Bangor mewn cystadleuaeth arwyddocaol gan lwyddo i gyrraedd yr ail safle allan o 32!
Mae'r Gystadleuaeth Cyfweld Cleient yn gystadleuaeth genedlaethol ar gyfer myfyrwyr y Gyfraith sy'n cael ei chynnal bob blwyddyn. Ei nod yw annog hyrwyddo a datblygu'r sgiliau sy'n gysylltiedig 芒 chyfweld cleientiaid o fewn cyd-destun addysgol. Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn parau i gyfweld cleientiaid ac yn cael eu beirniadu gan banel o feirniaid, gan ddefnyddio meini prawf asesu safonol. Mae'r myfyrwyr yn cystadlu mewn rhagras rhanbarthol ac mae'r 12 t卯m gorau yn cael eu rhoi drwodd i'r rowndiau terfynol.
听
Eleni, cafwyd 32 o dimau, ac rydym yn falch iawn bod Bangor wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth. Mae t卯m gorau Cymru a th卯m gorau Lloegr wedyn yn cael eu cynnwys yn y Gystadleuaeth Ryngwladol a gynhelir yng Ngwlad Pwyl ym mis Ebrill. Eleni, yr enillydd cyffredinol oedd Prifysgol Abertawe, felly eleni, bydd Abertawe a Sussex (a ddaeth yn drydydd) yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth Ryngwladol.
Wrth fyfyrio ar y gystadleuaeth, dywedodd Kay: 鈥淥 fod wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid 2024, byddwn yn ei hargymell i unrhyw un sy鈥檔 ystyried gyrfa fel cyfreithiwr neu yn y bar. Mae'r gystadleuaeth yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau perthynas 芒 chleientiaid, yn ogystal 芒'ch galluogi i roi eich gwybodaeth gyfreithiol ar waith mewn ffordd ymarferol. Mae'n brofiad pleserus iawn, a byddwn yn ei argymell."
Ychwanegodd Millie: 鈥淭rawsnewidiodd y gystadleuaeth hon fy sgiliau rhyngbersonol yn llwyr. Rwyf wedi magu llawer iawn o hyder yn fy ngalluoedd cyngor cyfreithiol; drwy'r holl sesiynau ymarfer a gwblhawyd gennym yn y cyfnod cyn y gystadleuaeth a chanfod adborth y beirniaid unigol yn hynod ddefnyddiol i wella hyn ymhellach. Heb s么n am y ffaith fod y digwyddiad ei hun yn Llundain a Birmingham yn gyfleoedd rhwydweithio gwych.鈥
Tracey Horton oedd yn gyfrifol am hyfforddi myfyrwyr Bangor. Mae Tracey wedi鈥檌 recriwtio鈥檔 ddiweddar gan y Brifysgol i sefydlu clinig cyngor cyfreithiol yn y Brifysgol lle bydd myfyrwyr blwyddyn olaf yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau鈥檙 cyhoedd, dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys. Dywedodd Tracey fod y gystadleuaeth yn dysgu sgiliau amhrisiadwy i'r myfyrwyr yn y clinig ac a fydd eu hangen os yw myfyrwyr yn bwriadu cymhwyso fel cyfreithwyr, gan fod y sgil hwn hefyd yn cael ei asesu yn y SQE a'r LPC. Cafwyd cystadlu brwd eleni felly mae鈥檙 ffaith bod y myfyrwyr wedi dod yn ail yn gamp wych.