Dechreuodd Aaron Robinson ar ei daith ddoethurol yng Nghanolfan Astudiaethau Pentecostaidd a Charismataidd Bangor yn 2018. Ar 11 Mehefin, 2024, llwyddodd Aaron i amddiffyn ei draethawd PhD, sy’n dwyn y teitl, ‘Toward a Theology of Faithful Witness: A 21st Century, African American, Pentecostal Engagement with the Apocalypse'. Mae ei ymchwil yn cynnig darlleniad naratif o lyfr y Datguddiad, gan olrhain motiff y tyst drwyddo draw, ac mae’n cynnig lluniad diwinyddol yn seiliedig ar y darlleniad. Fel ysgolhaig Pentecostaidd Affricanaidd-Americanaidd, daw gwaith Aaron i ben gyda golwg gyd-destunol ar ei arsylwadau, yng nghyd-destun yr Eglwys Bentecostaidd Affricanaidd-Americanaidd.Â
Mae Dr Robinson yn gyffrous i weld y prosiect hwn wedi'i gwblhau ac mae bellach wedi rhoi ei sylw ar aseiniad galwedigaethol a phrosiect monograff newydd.
Wrth fyfyrio ar ei daith ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Dr Robinson: “Rwyf wedi mwynhau'r profiad ym Mhrifysgol Bangor yn fawr! Roedd y goruchwylwyr a'r cydweithwyr yn barod iawn i helpu i roi adborth beirniadol yn ogystal ag anogaeth ar hyd y ffordd. Mae'r sylw a'r gefnogaeth bersonol a roddir gan y goruchwylwyr yn gymorth mawr i baratoi myfyrwyr ar gyfer viva llwyddiannus. Rhan fwyaf cyffrous y daith oedd ein seminar, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Roedd gallu cyflwyno ein gwaith ar gyfer adolygiad beirniadol gan gymheiriaid wedi helpu i hogi ein sgiliau amddiffyn!’Â
Gallwch ddilyn Dr Robinson ar-lein drwy ymweld â www.AaronjRob.com neu ar y cyfryngau cymdeithasol: @AaronjRob.
Llongyfarchiadau, Dr Robinson!