Dan gadeiryddiaeth fedrus Dr Mari Wiliam, darlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru, cyflwynodd yr Athro Charlotte Williams gefndir a chyd-destun y gyfrol, Globalising Welsh Studies, a’i phwysigrwydd yn yr hinsawdd gyfoes. Ychwanegodd Dr Neil Evans air am broses llunio’r gyfrol a’r themâu a amlygodd eu hunain wrth ddod â’r erthyglau niferus ynghyd.
Yn dilyn hynny, cafwyd dwy ddarlith fer gan ddau o gyfranwyr y gyfrol. Traddododd Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, sgwrs am ei bennod sy’n ailddehongli’r bywgraffiad a luniwyd i John Ystumllyn gan Alltud Eifion. Yn ôl traddodiad, John Ystumllyn yw’r dyn du cynharaf y gwyddom amdano a oedd yn siarad Cymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae pennod Dr Evans-Jones yn dangos yr haenau amrywiol yng ngwaith Alltud Eifion and ydynt wedi eu trafod llawer hyd yn hyn, yn enwedig mewn perthynas ag iaith, hiliaeth, ac imperialaeth.
Clowyd y sesiwn gyda darlith gan Dr Marian Gwyn, Darlithydd Anrhydeddus, a dradodd sesiwn hynod ddiddorol yn olrhain cyd-berthynas archifdai a’r cof cymdeithasol a chenedlaethol, a phwysigrwydd gofalu am nawdd digonol i gynnal y mannau pwysfawr hyn. Adlewyrchwyd ar ddigwyddiadau nodi dau gan mlwyddiant diddymu caethwasiaeth ym Mhrydain a’r gwahanol ffyrdd yr ymatebwyd i hynny, ynghyd â rhan arwyddocaol y casgliadau a’r arddangosfeydd a ddangosir mewn hyrwyddo a datblygu cymdeithas fwy cynhwysol a pharchus.
Mae’r gyfrol eisoes wedi derbyn canmoliaeth gan wahanol arbenigwyr, gan gynnwys yr Athro Uzo Iwobi CBE, Prif Weithredwr Cyngor Hil Cymru a ddywedodd fod Globalising Welsh Studies ‘yn ddarllen hanfodol i unrhyw un sy’n dymuno deall ein taith i gynhwysiant ac integreiddio yma yng Nghymru.’
Roedd yn achlysur arbennig ac mae modd darllen y gyfrol yn ei chyfanrwydd drwy .
Gellir hefyd brynu copi caled o'r llyfr gan .