Ar y cyd, fe gynhaliodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (ISWE) a Chymdeithas Gofnodion De Cymru (SWRS) lansiad cyfrol ddiweddaraf y Gymdeithas, a olygwyd gan Dr Lowri Ann Rees (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas), .
Wedi cyflwyniad gan Gadeirydd SWRS, Dr David Jenkins, cafwyd sgwrs rhwng Lowri a Chyfarwyddwr ISWE, Dr Shaun Evans. Buont yn trafod arwyddoc芒d y casgliad o lythyrau a ysgrifennwyd gan asiant tir Neuadd Middleton, Thomas Herbert Cooke, yn ystod ei gyfnod yn ne-orllewin Cymru.
Yn llawn manylder, mae鈥檙 llythyrau鈥檔 darparu cipolwg hynod ddiddorol o r么l yr asiant tir, rheolaeth ystad, a bywyd a gwaith yng nghefn gwlad Cymru鈥檙 1840au, gan ddatgelu argraffion ac agweddau rhywun o鈥檙 tu allan. Yn arwyddocaol, roedd cyfnod Cooke yn ne-orllewin Cymru yn cyd-fynd 芒g anterth Terfysgoedd Beca, cyfres o brotestiadau yn erbyn talu tollau i ddefnyddio鈥檙 ffyrdd. Mae ei lythyrau鈥檔 cyfleu mewn manylder yr ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd o fewn y gymuned, a ceir ddisgrifiadau byw wrth i Cooke ddod ar draws Merched Beca. Oherwydd hyn, mae鈥檙 llythyron yn ffynhonnell hynod arwyddocaol yng nghyd-destun astudiaethau o brotestiadau gwledig yng Nghymru鈥檙 bedwaredd ganrif ar bymtheg.