Mae Cronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru wedi dyfarnu ei gwobrau blynyddol. Enillydd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith yw Dr Gareth Evans-Jones sydd yn ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd am ei gyfrol, 鈥楳ae鈥檙 Beibl o鈥檔 tu鈥: Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838鈥1868)聽(Gwasg Prifysgol Cymru, 2022). Hon yw'r gyfrol gyntaf i archwilio'n fanwl sut y defnyddiodd y Cymry yn America'r Beibl i ymateb i gaethwasiaeth yn y 19eg ganrif, wrth i nifer gondemnio'r arfer o berchnogi pobl ac eraill, ar brydiau, gyfiawnhau'r fath arfer.
Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y cyhoeddiad gorau yn y Gymraeg sy鈥檔 ymdrin 芒 llenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymraeg neu eu gweithiau. Daw鈥檙 Wobr o gronfa a godwyd i gofio enw鈥檙 diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860鈥1926), a fu鈥檔 Aelod Seneddol dros etholaeth Sir F么n.
Cwblhaodd Gareth ei ddoethuriaeth dan arweiniad yr Athro Jerry Hunter a鈥檙 Athro Emeritws Eryl Wynn Davies, a dyna oedd sail y gyfrol academaidd hon a ddisgrifiwyd gan yr Athro Emeritws D. Densil Morgan fel '[c]yfrol arloesol [sydd hefyd] yn gyfraniad amhrisiadwy at wyddor esboniadaeth feiblaidd Gymraeg. Rhwng popeth, mae hon yn astudiaeth ddisglair iawn'.
Wrth ymateb i'r dyfarniad, dywedodd Gareth, 鈥淩ydw i wedi cael sioc enfawr o dderbyn y wobr hynod yma. Roedd llunio鈥檙 thesis doethurol oedd yn sail i鈥檙 llyfr dan arweiniad dau ysgolhaig eithriadol, ac yna gydweithio 芒 Gwasg Prifysgol Cymru ac Aled Llion Jones, yn werthfawr iawn, ac mae clywed fod y Gronfa wedi dyfarnu 鈥楳ae鈥檙 Beibl o鈥檔 tu鈥 yn deilwng o鈥檙 wobr yn deimlad tu hwnt i eiriau. Diolch o waelod calon i bawb oedd yn rhan o鈥檙 broses ddyfarnu. Mae hyn yn hwb enfawr ac rydw i鈥檔 eithriadol ddiolchgar.鈥