听
Teitl thesis Chris yw 'Suffering and Theodicy in the Apocalypse: A Pentecostal Exploration',听 ac mae'r ymchwil yn archwilio dioddefaint a theodiciaeth yn yr Apocalyps drwy gyfrwng dull darllen Pentecostaidd sy'n defnyddio dadansoddiad听Wirkungsgeschichte a naratif. Defnyddiwyd y goblygiadau a ddaeth o'r ymchwiliad hwn i greu dealltwriaeth amgen o ddiwinyddiaeth Bentecostaidd am ddioddefaint sy'n berthnasol i gyd-destunau Pentecostaidd.
Wrth adlewyrchu ar ei gyfnod fel ymchwilydd doethurol, dywedodd Chris: 鈥淢ae fy mhrofiad ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn amser cyfoethog o ffurfiant addysgiadol sydd wedi fy mharatoi ar gyfer gwaith mewn academia. Rydw i'n hynod ddiolchgar am y cyfarwyddyd eithriadol a gefais gan fy doktorvater ac am y gymdeithas o gyd-ymchwilwyr sydd wedi fy nghefnogi ar hyd y daith.鈥
Llongyfarchiadau, Dr Palmer!