Mae Dr Craig Prescott, Darlithydd y Gyfraith, wedi bod yn hynod brysur yn sylwebu ar ddatblygiadau diweddar parthed teulu brenhinol Prydain. Mae Dr Prescott ymysg y sylwebwyr blaenaf yn rhyngwladol ac yn cyson gyfrannu at erthyglau, gwefannau a rhaglenni newyddion. Â
Wrth ymateb i’r cyfnod prysur diweddar, dywedodd Dr Prescott:Â
‘Roedd marwolaeth y Frenhines Elizabeth II ac esgyniad y Brenin i’r orsedd yn foment arwyddocaol yn hanes y DU a ddenodd gryn ddiddordeb gan y cyfryngau ym Mhrydain a thramor. Mae wedi bod yn bleser chwarae rhan mewn esbonio sut mae’r foment hon wedi datblygu gydag amryw seremoniau a digwyddiadau yng Nghymru a gweddill y DU, gan gynnwys gydag Angladd Gwladol y Ddiweddar Frenhines. Roedd hefyd yn gyfle i archwilio’r materion sy’n wynebu’r frenhiniaeth bellach dan Frenin newydd. Gan gynnwys paratoadau ar gyfer y coroni, rôl Tywysog a Thywysoges newydd Cymru, a gweithgareddau parhaus Dug a Dugess Sussex. Gyda’r materion hyn mewn golwg, mae diddordeb yn y frenhiniaeth yn siŵr o barhau.’Â