Darlith ym Mangor yn Trafod y Newyn Iwerddon
Roedd yn bleser mawr gan Sefydliad Ymchwil Astudio Ystadau Cymru, mewn partneriaeth ag Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, groesawu Dr Ciarán Reilly yn ôl i Brifysgol Bangor ar 15 Ebrill i rannu ei waith ymchwil arloesol ar ‘Irish Landed Estates and the Great Irish Famine, 1845-1852’.
Ciarán yw cyfarwyddwr cynorthwyol y Centre for the Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ of Historic Irish Houses & Estates (CSHIHE) ym Mhrifysgol Maynooth, ac mae’n hen gyfaill i Sefydliad Ymchwil Astudio Ystadau Cymru, ac wedi cydweithio ar sawl project a menter, gan gynnwys ymchwil diweddar ar swyddogaeth asiantiaid tir a’r cysylltiadau rhwng ystadau yn Iwerddon a Chymru.
Ynghyd â’r Athro Terence Dooley o CSHIHE, mae cyngor, anogaeth a chefnogaeth amhrisiadwy Ciarán wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y gwaith o sefydlu Sefydliad Ymchwil Astudio Ystadau Cymru dros y degawd diwethaf, felly roedd yn wych gweld cynulleidfa mor fawr yn gwrando’n frwd ar ddarlith wadd ddiddorol a chraff.
Trwy gydol ei yrfa academaidd, mae Dr Reilly wedi ysgrifennu’n helaeth ar hanes plastai yn Iwerddon – The Irish Land Agent: The Case of King's County, 1830-60 (2014) – ac ar y newyn mawr yn yr Iwerddon – John Plunket Joly and the Great Famine in King’s County (2012). Yn ei waith ymchwil diweddaraf, mae wedi cyfuno’r ddau faes arbenigedd hyn i asesu amrywiol agweddau tirfeddianwyr yn Iwerddon at y malltod tatws trychinebus a darodd y wlad yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’u hymateb i’r dinistr economaidd a chymdeithasol a fu’n rhaid i’w tenantiaid ei ddioddef.
Gan ddyfynnu nifer o astudiaethau achos diddorol, ac yn sgil ei waith manwl gydag archifau ystadau, llwyddodd Dr Reilly i amlinellu pa mor ganolog oedd ystadau tir i ddeall y cyfnod mwyaf cythryblus yn hanes modern Iwerddon.Ìý Mae’r ymchwil yn cwestiynu rhai o’r naratifau canolog a luniwyd ynglÅ·n â chyfraniad tirfeddianwyr Iwerddon at y trychineb, gan fynnu nad ymatebodd y landlordiaid i gyd yn yr un ffordd - roedd rhai yn garedig, eraill yn ddifater a llawer yn troi eu tenantiaid allan o’u tir.
Mae Dr Reilly yn canolbwyntio ar y mater dadleuol o droi tenantiaid allan yn ystod y newyn.Ìý Mae'n herio'r darlun confensiynol o dirfeddianwyr fel bonheddwyr Eingl-Wyddelig gormesol, gan dynnu sylw at feiusrwydd rhestr ehangach o bobl, megis rhyngfasnachwyr, ffermwyr cefnog a ffermwyr bach, ac yn ddiddorol iawn, y clerigwyr Gwyddelig, yn y cyfnod gwaradwyddus hwn o ddadleoli a dietifeddu, a arweiniodd, i bob pwrpas, at ddileu'r dosbarth tyddynwyr yn Iwerddon.Ìý Mae Dr Reilly yn dangos bod y rhai a fu’n troi’r werin allan yn dod o bob rhan o gymdeithas – yn cynnwys enwadau crefyddol – ac yn wir yn cynnwys rhai o sefydliadau cyhoeddus pwysicaf Iwerddon.Ìý Er ei fod yn ganolog i’r ymwybyddiaeth Wyddelig, nid yw academyddion erioed wedi ymchwilio'n llawn i'r pwnc hwn.Ìý Mae’r cwestiynu gofalus, aml-ddimensiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ail ddehongli'r newyn yn her sylweddol i ddealltwriaeth gonfensiynol o hanes a chenedligrwydd Iwerddon.
Diolchodd Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Astudio Ystadau Cymru, Dr Shaun Evans i Ciarán am ei ddarlith, gan gyfeirio at ddyfnder y wybodaeth newydd a gafwyd o’r archwiliad beirniadol o archifau ystadau.Ìý Mae ymchwil Ciarán yn gwneud cysylltiadau pwysig iawn rhwng y plastai, yr ystadau a themâu a materion o arwyddocâd cymdeithasol-economaidd aruthrol – yn yr achos hwn, trychineb dyngarol dinistriol a gafodd effaith barhaol ar bob agwedd ar fywyd yn Iwerddon.Ìý Mae dadansoddiad gofalus a beirniadol Ciarán o’r pwnc hanesyddol anodd hwn i’w ganmol.Ìý Ìý
Er nad yw Ciarán wedi gorffen yr ymchwil, yn ôl adborth ac ymateb y gynulleidfa, a oedd yn cynnwys llawer o aelodau o dras Wyddelig, ymddengys y bydd y gwaith hwn yn gwneud cyfraniad hanfodol at astudiaeth o ystadau a'r newyn yn Iwerddon.Ìý Diolchodd Shaun a holl dîm Sefydliad Ymchwil Astudio Ystadau Cymru iddoÌý am gymryd yr amser i ddod i Fangor i rannu ei syniadau a’i waith gyda ni, ac am ddarparu archwiliad difyr ac arloesol o’r hyn sy’n parhau i fod y digwyddiad mwyaf dadleuol yn hanes Iwerddon.Ìý Edrychwn ymlaen at glywed mwy am ei ganfyddiadau, gan obeithio y bydd yn dychwelyd i Fangor i'w rhannu gyda ni yn fuan iawn!
Go raibh maith agat, Ciarán!
(gan Sean Martin)
Ìý
Ìý