Cyn-fyfyrwyr MA Polisi Cymdeithasol yn cyd-awduro papur ymchwil mewn cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw ym maes y gwyddorau cymdeithasol
Mae dau gyn-fyfyriwr MA Polisi Cymdeithasol, Aidan Bark-Connell a Stella Gabuljah, wedi cyd-awduro eu cyhoeddiad cyntaf mewn cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw yn y gwyddorau cymdeithasol.
Ar ôl cwblhau eu graddau meistr, recriwtiwyd Aidan a Stella i’r prosiect a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig, ‘Covid a’r Maes Glo: Petruster Brechlyn yng Nghymru ac Appalachia’, dan arweiniad Dr Chris Saville, Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, i archwilio petruster brechlynnau yn y cymunedau dad-ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol. Roedd y prosiect yn cynnwys dulliau meintiol ac ansoddol a chynhaliodd Aidan a Stella gyfweliadau ansoddol ar-lein gyda phobl sy’n byw yn ardaloedd Appalachiaidd a meysydd glo Cymru.
Ìý
Mae’r papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Social Science and Medicine, yn archwilio’r cysylltiadau rhwng canlyniadau cymdeithasol dirywiad glofaol a rhwystrau i'r nifer sy'n cael eu brechu.
Meddai’r Prif Ymchwilydd, Chris Saville, ‘Roedd pa mor gyflym y cydiodd Aidan a Stella y prosiect a’r gwaith gwych a wnaethant gyda’r cyfweliadau argraff fawr arnaf. Roedd eu cwrs yn amlwg wedi eu paratoi’n dda.’
Hefyd yn gweithio gydag Aidan a Stella ar y prosiect, ychwanegodd Dr Robin Mann: ‘Doedd cynnal cyfweliadau ymchwil yng nghanol y pandemig ddim yn hawdd ond fe wnaethon nhw drin y dasg yn fedrus iawn. Roedd yn bleser gweithio gyda nhw ar y prosiect.’
Dywedodd cyfarwyddwr Cwrs MA Polisi Cymdeithasol, Dr Hefin Gwilym, ‘Roedd Stella ac Aidan yn fyfyrwyr MA Polisi Cymdeithasol rhagorol. Ers hynny mae Stella wedi dechrau ei PhD mewn Polisi Cymdeithasol a Chymdeithaseg. Cystadlodd yn llwyddiannus am Ysgoloriaeth yr Is-Ganghellor ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Mae ei hymchwil ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) gyda chyfeiriad arbennig at Affrica'.
Covid and the Coalfield: Vaccine Hesitance in Wales and Appalachia: https://www.thebritishacademy.ac.uk/documents/3747/Covid-and-the-Coalfield.pdf
Social Science and Medicine: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0277953623006524