Bob bore Sadwrn am 10yb o fis Ionawr i fis Mawrth 2023, mae'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yn cynnal cyfres o sgyrsiau gwahanol yn gysylltieidg ag athroniaeth, moeseg a chrefydd er mwyn rhoi blas i ddarpar fyfyrwyr o’r hyn rydym yn ei addysgu ym Mangor.Ìý
Meddai Dr Joshua Andrews, Darlithydd Crefydd a Moeseg, ‘Bwriad y gyfres ydi dangos i ddarpar fyfyrwyr, disgyblioin ysgol, eu hathrawon, a’r cyhoedd yn gyffredinol yr hyn rydym yn ei gynnig ym Mangor. Mae’r ystod o bynciau rydym yn ei gynnig yn eang, o foeseg bwyd i baganiaeth ac LHDTC+, i athroniaeth a'r amgylchedd, ac mae hyn yn gyfle i hyrwyddo hynny.’Ìý
Ynghyd ag aelodau o staff yr Ysgol, bydd rhai myfyrwyr yn cynnal ambell sesiwn hefyd. Mae hyn yn gyfle anhepgor yn ôl Dr Gareth Evans-Jones, Darlithydd Crefydd ac Athroniaeth, gan y ‘bydd yn rhoi’r gallu i nifer o’n myfyrwyr ôl-radd ac ambell un israddedig hogi eu sgiliau cyflwyno a chynnal sesiynau am feysydd maen nhw wedi arbenigo ynddyn nhw, sy’n braf o beth.’
Mae'r gyfres ar gael am ddim i'w mynychu ac yn cael ei chynnal dros Zoom. I gofrestru, cysylltwch â Dr Joshua Andrews: Âá.²¹²Ô»å°ù±ð·É²õ°ª²ú²¹²Ô²µ´Ç°ù.²¹³¦.³Ü°ì.Ìý
Ìý