Llwyddiant mawr sesiynau astudio Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch y Pasg
Cyflwynodd aelodau o鈥檙 adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas 聽34 o sesiynau astudio ar-lein ac ar y campws dros dair wythnos gwyliau鈥檙 Pasg i gefnogi dros 700 o fyfyrwyr Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol a鈥檜 hathrawon.
Roedd y cynnwys wedi ei greu er mwyn bod yn berthnasol i fyrddau arholi CBAC/Eduqas ac OCR, ac mae ystorfa ar-lein hefyd wedi鈥檌 chreu fel y gall myfyrwyr ac athrawon gyfeirio鈥檔 么l atynt yn 么l yr angen.
Dywedodd Dr Joshua Andrews, Darlithydd Crefydd a Moeseg, 鈥淐ofrestrodd 733 i fynychu鈥檙 sesiynau, ac mae鈥檙 ymgysylltu 芒 myfyrwyr ac athrawon ym mhob sesiwn wedi bod yn wych 鈥 mae wedi bod yn brofiad pleserus iawn.鈥
Ychwanegodd Dr Gareth Evans-Jones, Darlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd, 鈥淔e wnaethom hefyd gynnal cynhadledd undydd yng Ngholeg Sir G芒r, lle daeth saith ysgol ynghyd i gymryd rhan yn ein cyrsiau o amgylch y pwnc a sgiliau arholiad. Rydym wedi cael rhywfaint o adborth yn barod, ac mae myfyrwyr ac athrawon wedi bod yn garedig iawn yn eu hymatebion.鈥
Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, 鈥淢ae鈥檔 wych gweld arbenigedd ein staff yn cael ei gydnabod a鈥檌 ddefnyddio gan ysgolion a cholegau yn y modd hwn. Llongyfarchiadau i bawb a fu鈥檔 rhan o lwyddiant y digwyddiadau hyn, sydd i gyd yn cyfrannu mewn ffordd ymarferol iawn at feithrin perthynas ag ysgolion, colegau a darpar fyfyrwyr. Dyma鈥檙 union fath o weithgaredd allgymorth sy鈥檔 ehangu ein henw da mewn athroniaeth, moeseg ac astudiaethau crefyddol ledled Cymru a thu hwnt.鈥