Byddwn yn croesawu Tim Haines i Brifysgol Bangor i draddodi darlith gyhoeddus o鈥檙 enw 鈥淢aking Monsters鈥 fel rhan o 糯yl Wyddoniaeth Bangor.
Dechreuodd Tim weithio fel newyddiadurwr cyn mynd i weithio fel cynhyrchydd ar 鈥淭omorrow's World鈥 a 鈥淗orizon鈥.
Yn y BBC, creodd gyfres nodedig a enillodd nifer o wobrau BAFTA ac Emmy, sef 鈥淲alking with Dinosaurs鈥, ym 1998, ac yna鈥檙 gyfres ddilynol 鈥淲alking with Beasts鈥 a鈥檙 ddrama 鈥淭he Lost World鈥. Sefydlwyd Impossible Pictures yn 2002 dan arweiniad Tim ac mae wedi mynd ymlaen i greu amrywiaeth fawr o raglenni ffeithiol a drama arbenigol boblogaidd i鈥檙 BBC, Channel 4, Sky, Discovery a Nat Geo yn cynnwys 鈥淪ea Monsters鈥, 鈥淧rehistoric Park鈥, 鈥淧rimeval鈥, 鈥淪pace Odyssey鈥, 鈥淪inbad鈥 a 鈥淏litz Street鈥. Yn 2013, gwnaed Tim yn gyfarwyddwr creadigol ITV Studios Drama yn gyfrifol am 鈥淏eowulf鈥 a 鈥淭he Loch鈥. Fel cyfarwyddwr creadigol 鈥淚mmersive Escapes鈥, cynhyrchodd Tim hefyd y profiad trochol 鈥淒inosaurs in the Wild鈥 ac yna yn 2019 sefydlodd Loud Minds, cwmni cynhyrchu rhaglenni teledu sydd ar hyn o bryd yn gwneud cyfres wyddoniaeth nodedig i NBCU o鈥檙 enw 鈥淪urviving Earth鈥.
Graddiodd Tim Haines o Brifysgol Bangor ym 1981 gyda BSc mewn S诺oleg Gymhwysol.听Yn 2002, derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
听
Noddir G诺yl Wyddoniaeth Bangor yn hael gan Gronfa Waddol Tom a Raj Parry Jones. Sefydlwyd y Gronfa yn 2002 i annog pobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd ac entrepreneuriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae'r gronfa yn cefnogi rhaglenni ar draws y Brifysgol, gan gynnwys yr 糯yl Wyddoniaeth hon.
听
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg