Cyfryngau Cymdeithasol
Pwysig – Cyfryngau Cymdeithasol a Chi
Mae’r Ysgol wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio i ddefnydd ar gyfryngau cymdeithasol – dylech gyfeirio at ganllawiau’r CNB ar hyn – edrychwch Yn ôl y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB), ‘mae eich bywyd personol yn cyfrif’ pan fyddwch yn ystyried cymeriad da nyrs a’i (h)addasrwydd i ymarfer (mae hyn yn ddilys i bob myfyriwr cyn-gofrestru o bob proffesiwn iechyd) , ac mae’r CNB yn cyfeirio’n benodol at ddefnydd cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook ayyb) – tybed a allai’r holl fyfyrwyr fwrw golwg ar y modd y maent yn defnyddio eu cyfryngau cymdeithasol/ Facebook a sicrhau nad yw’r deunydd a gyhoeddant yn cynnwys dim o’r canlynol: Â
- lluniau cyhoeddedig sy'n enwi unigolion heb eu caniatâd penodol;
- lluniau cyhoeddedig y gellir barnu eu bod yn ‘amhroffesiynol’ – h.y. yn enwi unrhyw rai fel nyrsys ym Mhrifysgol Bangor (yn gwisgo’r Wisg Genedlaethol Gymreig neu’n cyflawni tasgau ymarferol/ clinigol – hyd yn oed os ydynt wedi'u ffugio);
- unrhyw sylwadau, deialog neu luniau sy’n torri cyfrinachedd (i unigolyn neu gorfforaeth) a/neu y gellid barnu eu bod yn amhriodol neu’n amhroffesiynol.