Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2012.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Gallu cyfrannu at ofal iechyd.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud
Rwy'n rheoli'r gwasanaeth Imiwnoleg yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cynnig profion labordy sy'n helpu gwneud diagnosis o Glefydau Awtoimiwn, alergeddau ac anaffylacsis, anhwylderau鈥檙 celloedd plasma a diffyg imiwnedd. Rwyf hefyd yn ceisio cofrestru fel Gwyddonydd Clinigol ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o symud ymlaen i r么l Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, sy'n gweithredu fel pont rhwng gwasanaethau labordai a gwasanaethau clinigol.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich r么l?
Y cyflymder a'r heriau cyson sy'n ein hwynebu. Hefyd amrywiaeth y bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Peidiwch 芒 gwrando ar bopeth a welwch ac a glywch ar y newyddion. Mae gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn LLU, yn llawn pobl anhygoel sy'n mynd y tu hwnt bob dydd er mwyn iechyd a lles y cleifion. Mae rhywbeth i bawb, ac mae cyfleoedd yn codi鈥檔 aml.
Sut byddech chi鈥檔 disgrifio鈥檙 Gwasanaeth Iechyd mewn gair?