Roedd yr ymchwil yn archwilio profiadau dysgwyr o deuluoedd di-Gymraeg a oedd mewn addysg Gymraeg, a chanfyddiadau eu rhieni, yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus, yn enwedig wrth bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Yn rhan o'r astudiaeth, cafodd y disgyblion a'u teuluoedd eu cyfweld am eu profiadau o ddysgu gartref yn ystod COVID.
Yn yr adroddiad, mae'r tîm ymchwil yn dyfynnu un disgybl, gan eu bod yn teimlo bod ei eiriau yn disgrifio profiadau cyffredinol yr holl deuluoedd y siaradwyd â hwy, ac yn tynnu sylw at y diffyg cyfle i ymwneud â’r Gymraeg a’i defnyddio yn ystod y cyfnod clo: "Yn fy marn i roedd e [datblygu sgiliau Cymraeg] ar rhywfaint o saib... [oherwydd] doeddwn i ddim yn ei ddefnyddio cymaint.”
Meddai'r Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth y Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, un o'r prif ymchwilwyr, “Yn amlwg roedd gweddnewid addysgu a dysgu yn y cnawd i fod ar-lein ar fyr rybudd am gael effaith andwyol ar rai sgiliau penodol. Un o’r sgiliau hynny oedd y Gymraeg. Pa un ai bod disgybl o gefndir di-Gymraeg yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg, ysgol ddwyieithog neu ysgol cyfrwng Saesneg ble cyflwynir y Gymraeg fel pwnc, roedd y sgaffaldiau arferol ar gyfer dysgu iaith - drwy gyfoedion dosbarth, adnoddau ac athrawon - wedi diflannu. Yr hyn mae’r adroddiad yma yn ei wneud ydi amlygu llais y dysgwr fu’n wynebu’r her o dderbyn ei addysg ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg heb sgaffaldiau iaith yn y cartref nag yn yr ysgol yn ystod y cyfnod o drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Drwy archwilio eu profiadau byw nhw a’u teuluoedd o ymdopi â’r sefyllfa ar y pryd ynglŷn â’u perthynas gyda’r iaith cynigir nifer o argymhellion o ran sut i gefnogi’r disgyblion hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i lwyddo hyd eithaf eu gallu i ailgydio yn eu taith ieithyddol.”
Mae canfyddiadau'r ymchwil yn nodi gwerth cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn hwyluso'r broses bontio. Maent hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd asesu sgiliau Cymraeg disgyblion rhwng cyfnodau allweddol - er enghraifft, wrth bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd - er mwyn canfod unrhyw angen am gymorth. Mae'r astudiaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y cartref a'r ysgol, a defnyddio cyfathrebu dwyieithog - er enghraifft, darparu rhestrau o’r termau allweddol a fyddai'n cynorthwyo rhieni i gael gafael ar adborth a'i ddeall. Tynnir sylw hefyd at bwysigrwydd cynyddu’r cyfleoedd allgyrsiol i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn yr ysgol a’r tu hwnt iddi.
Dywedodd Dr Siân Lloyd Williams, un o'r prif ymchwilwyr o Aberystwyth, "Mae canfyddiadau ein hymchwil yn nodi nifer o oblygiadau allweddol o ran polisïau ac arferion sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Addysg Lleol ac ysgolion, a fydd yn eu cynorthwyo i ganfod meysydd lle mae angen cefnogaeth er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg hyd eithaf eu gallu."
Cefnogwyd yr ymchwil gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, sy'n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.