Bangor ymysg dringwyr uchaf Gynghrair Prifysgolion y Guardian
Mae Prifysgol Bangor wedi ei osod yn safle 54 o blith 122 prifysgolion y Deyrnas Unedig sydd wedi鈥檜 cynnwys yng nghanllaw .
Mae hyn yn naid 28 lle o safle鈥檙 flwyddyn ddiwethaf, ac o ganlyniad y brifysgol yw鈥檙 pedwerydd uchaf o ran cynnydd yn safle.
Mae chwe phwnc yn y Brifysgol yn ymddangos ymysg y deg uchaf yn y tablau pwnc.
Mae'r rhain yn cynnwys Cyfrifo a Chyllid, (5ed); Gwyddorau Biofeddygol,(5ed); Bydwreigiaeth, (6ed); Cerddoriaeth, (10fed); Athroniaeth, (6ed);a Dylunio Cynnyrch, (3ydd); gyda鈥檙 Gyfraith nepell o鈥檙 deg uchaf (cyntaf yng Nghymru a 12fed allan o 113 sefydliad sy鈥檔 dysgu鈥檙 pwnc yn y Deyrnas Unedig).
Rwyf wrth fy modd efo鈥檙 cynnydd yn ein safle ar sail ein perfformiad, sy鈥檔 adlewyrchu ein huchelgais ar gyfer y brifysgol hon. Profiad y myfyriwr yw canolbwynt canllaw The Guardian University Guide, ac mae gan Bangor llawer i鈥檞 cynnig, o鈥檔 haddysg a ysbrydolwyd gan ymchwil ac ansawdd ein dysgu i'r ystod eang o weithgareddau sydd ar gael i'n myfyrwyr.
Mae Gwyddorau Biolegol, a osodwyd yn 5ed o blith 64 prifysgol yn dysgu鈥檙 pwnc, yn un o raglenni鈥檙 Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a fydd yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf fis Medi nesaf.
Dywedodd yr Athro Mike Larvin, Deon Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a Dirprwy Is-ganghellor dros dro ar gyfer Meddygaeth ac Iechyd,
鈥淢ae鈥檙 canlyniad gwych yn cydnabod ein t卯m ymroddedig sy鈥檔 gweithio ar draws finiau traddodiadol i ddarparu graddedigion ardderchog a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol yn eu gyrfaoedd gwyddonol, meddygol ac iechyd i鈥檙 dyfodol.鈥
Mae Prifysgol Bangor hefyd newydd ei henwi yn Brifysgol Gymreig y Flwyddyn yng nghanllaw University Guide 2024 cyntaf y Daily Mail, a gosodwyd yn drydydd o blith prifysgolion Cymru ac yn y 50 uchaf yn y Deyrnas Unedig.