Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Cynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol Bangor

Gall ymddeol ymddangos ymhell i ffwrdd, ond gall olygu newid o bwys nid yn unig mewn ffordd o fyw, ond hefyd mewn amgylchiadau ariannol. Drwy gynllunio ymlaen llaw, a rhoi tipyn o arian o’r neilltu i ddarparu incwm ar gyfer y dyfodol, gellir sicrhau fod ymddeoliad mor gyfforddus a phleserus â phosib.

Mae Ymddiriedolwyr y Cynllun a’r Brifysgol yn eich gwahodd i wneud hynny drwy ymuno â Chynllun y Brifysgol. Gallwch gael copi o lawlyfr y cynllun drwy gysylltu gyda'r Rheolwr Pensiynau yn yr Adran Gyllid, Reichel, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG

Edrychwn ymlaen at eich croesawu fel aelod o’r Cynllun.