1. Rhagarweiniad
Ers penderfynu yn 1984 nad oes raid talu TAW ar rai hysbysebion, mae cwmpas y rhyddhad hwn wedi ehangu dros y blynyddoedd. Gan fod y Brifysgol yn elusen sydd wedi ei hesgusodi rhag cofrestru, mae wedi elwa ar y rhyddhad hwn ac, yn dilyn Arolwg Trethiant Elusennau yn 1997-1999, mae鈥檙 rhyddhad wedi ei ymestyn ymhellach ac wedi dod i rym o 1 Ebrill 2000.
2. Cwmpas y rhyddhad hysbysebu
Mae鈥檙 rhyddhad ar gael i鈥檙 Brifysgol, ond nid i鈥檞 chwmnau masnachu, h.y. is-gwmnau sydd yn llwyr yn ei meddiant.
Mae鈥檙 rhyddhad yn cynnwys pob math o hysbysebion, a osodir ar amser neu ofod hysbysebu rhywun arall. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fath o hysbysebu sydd yn cyfathrebu 鈥檙 cyhoedd, e.e. teledu, sinema, papur newydd, cylchgronau, posteri, gwefannau鈥檙 rhyngrwyd etc.
Cyn belled ag y bwriedir gosod yr hysbyseb mewn amser neu ofod a brynwyd, bydd cyflenwi cynllun neu gynhyrchu鈥檙 hysbyseb yn gymwys ar gyfer rhyddhad. Byddai hyn yn cynnwys yr holl argraffu, gwaith celf, cysodi etc; enghraifft o hyn fyddai cynllunio a chynhyrchu poster. Rhaid i鈥檙 nwyddau a鈥檙 gwasanaethau fod chysylltiad cls 鈥檙 hyn a gynhyrchir.
3. Datganiadau
Bydd ar y cyflenwyr bob amser eisiau tystiolaeth fod y cyflenwad wedi ei wneud i elusen. Felly, mae鈥檔 rhaid llenwi ffurflen ddatganiad ar gyfer pob hysbyseb neu, os defnyddir cyflenwr yn aml, gallai un ffurflen ddatganiad fod yn dderbyniol.